Y Rhinogydd - o Drawsfynydd i Bermo 11 Mai
Ar ôl trio bod yn drefnus a bwcio tacsi i fynd a ni i ddechra ’r daith roedd y tacsi hanner awr yn hwyr. Gan mai dim ond 5:00yb oedd hi, roedd pawb yn meddwl am yr hanner awr ychwanegol o gwsg fasa wedi ei gael. Y criw oedd Erwyn, Matthew, David, Trystan, Gethin, Andras, Iolo, Alice, Sandra a Dwynwen.
Beth bynnag, dyma gael lift i Ty ’n Twll ar ochor ddeheuol Llyn Trawsfynydd a cychwyn gyda ’r haul yn isel tu ôl i ni. Wrth gychwyn bu rhaid i mi ymddiheuro nad oeddwn wedi neud reci o ’r daith yn ddiweddar a gobeithio na fyddwn yn crwydro ’n bell o ’r linell ddelfrydol.
Yn sydyn iawn dyma cyrraedd ein copa cyntaf, Moel Gyrafolen, ac wedyn dros Diffwys, Foel Penolau a Moel Ysgyfarnogod cyn seibiant am frecwast wrth ymyl Llyn Du. O fan hyn ymlaen mae ’r Rhinogydd yn dangos eu gwir gymeriad a ’r tir dan draed yn mynd yn arw a grugog. Er i mi fynd oddi ar y llwybr yn un lle a pawb at eu cliniau yn y grug, ond doedd hi fawr gwell dan draed ar ôl dod yn ô I ’r llwybr iawn.
Wrth gyrraedd Bwlch Tyddiad dyma gyfarfod Myfyr oedd wedi dod i ’n cyfarfod dros Rhinog Fawr. Ar ôl yr ail hoe fach wrth ymyl yr ail Lyn Du dyma perswadio Myfyr nad oedd dim gwell i ’w neud ar ddiwrnod mor heulog na dod yn ôl dros Rhinog Fawr am yr ail waith. Braf oedd cael gwybodaeth leol Myfyr a medru cael seibiant o ’r mordwyo am sbel.
Ffarwelio efo ni wnaeth Myfyr ym Mwlch Drws Ardudwy, doedd dim perswadio fo i ddod dros Rhinog Fach hefyd. Mi ddaru pawb sylweddoli pam yn fuan iawn efo ’r dringo ’n serth a didrugaredd i ’r copa. Roedd gwres y dydd yn llethol bellach ac er i ’r tirwedd wella roedd angen seibiant arall ar gopa Llethr.
Y bwriad oedd i ddal y trên o Bermo am 6:00yh ond oherwydd cychwyn yn hwyr a ’r gwres daeth yn amlwg ar Llethr y byddai hyn yn amhosib. Ymddiheuriadau mawr i Matthew oedd yn gorfod canslo pryd mewn bwyty moethus.
Er i mi addo byddai ’r daith yn mynd yn haws ar ôl Llethr roedd cryn dipyn o fyny a lawr i ddod. Erbyn Bwlch y Rhywgir roedd pawb wedi ymladd a dwi ’m yn siŵr ta chwerthin neu crio oedd rhai pan ddwedais na i fyny oedda ni ’n mynd o ’r bwlch. Roedd rhai wedi llygadu llwybr Taith Ardudwy sydd yn disgyn o ’r grib yn fan hyn.
Ymlaen ddoth pawb a dros rhyw 2-3 fryncyn arall cyn disgyn lawr i Bermo. Roedden yn teimlo ein bod wedi cyrraedd planed arall, llond y lle o bobol a heini gyd yn binc di bod ar lan môr drwy ’r dydd. Doedd dim digon a amser i fedru mynd i dafarn ond roedd potel o gwrw o ’r Spar a chips i fwyta ar y platfform yn dderbyniol iawn. Cafwyd golygfeydd godidog o Enlli a Pen Llŷn o ’r trên, pawb wedi blino ’n racs ac ambell un mor binc a ’r pobol yn Bermo.
Diolch i bawb o ’r criw am eu cwmni hwyliog, diwrnod cofiadwy!
Adroddiad gan Dwynwen.
Lluniau gan Matthew, Erwyn, Sandra a David ar FLICKR