HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Y Mynydd Du 11 Mai


Taith arall i Fannau Sir Gâr, ond cerddom drwy galon y Mynydd Du, sydd ddim mor gyfarddwydd i aelodau'r clwb.
Daeth 7 aelod ar y daith 13 milltir ar ddiwrnod braf. Bendigedig oedd clywed y gwcw yn croesawu’r haf.

Ar ôl cychwyn o Goedwig Gïedd, esgyn graddol ar Gefn Mawr. Eisteddom ar Garreg Lem am baned ac i bwyta brownies Helen i ddathlu ei phen-blwydd.

Y rhyd gyntaf oedd Afon Twrch, dim ond un yn cwympo i’r dŵr!

Wedyn, dringo Waun Lefrith i Fannau Sir Gâr. Cawsom ginio yn edrych dros Llyn y Fan Fach. Bu arweinydd y daith yn ddiolchar am y rhoddion bwyd ar ôl iddo adael ei ginio y car.

Disgyn Waun Lefrith wedyn, croesi Twrch Fechan a’i dilyn i lawr. Neb yn baglu wrth i ni groesi Afon Twrch am yr eildro.

Egwyl fach wrth biler triongli Bwlch y Ddeuwynt, i lawr Llorfa a chroesi un afon aralll - Gwys Fawr.

Yn cerddedd gyda fi oedd Simeon, Dewi, Eurig, Digby, Helen, Llŷr a Meirion.

Adroddiad gan Paddy Daley

Lluniau gan Dewi ar FLICKR