HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cwm Pennant 11 Medi


Mae rhamant yn perthyn i Gwm Pennant, cymaint felly, fel yr ymgasglodd deunaw ohonom ger Eglwys Dolbenmaen ar gyfer y daith hon, er rhagolygon am wynt a chawodydd trymion. Rhannu ceir oedd y gorau i deithio’r 4 milltir i ben draw’r Cwm ac wedi parcio roedd unigrwydd a mawredd y Cwm yn amlwg i’r holl gerddwyr. I gychwyn, roedd yn rhaid cerdded i Beudy’r Ddol heibio fferm Braich Dinas, sy’n gartref i deulu ifanc lleol – Dylan a Gwenan Perry a 6 o blant.

O Beudy’r Ddol roedd yn rhaid dringo i fyny i gyfeiriad Gwm Trwsgwl tuag at chwarel y Prince of Wales. Er mwyn gweld ehangder y chwarel aethom i fyny’r lefelau tuag at Fwlch y Ddwy Elor. Yma gwelwyd y twll enfawr sydd wedi ei naddu pan oedd y chwarel yn ei hanterth rhwng 1863 a 1876 pan gyflogwyd rhwng 140 a 150 o chwarelwyr. Ond yn anffodus, pan ddymchwelwyd 600,000 tunnell o graig yn 1876 aeth yn rhy beryglus i weithio yna wedyn.

Wedi disgyn yn ôl i lefel y dramffordd, dilynwyd y llwybr yma yn ôl ar hyd lethrau Moel Lefn a Moel yr Ogof. Agorwyd y dramffordd yn 1872 gan ymuno a’r dramffordd o Chwarel Gorseddau, Cwm Ystradllyn i Borthmadog. Cyn hyn roedd llechi y PoW yn cael ei cludo gyda trol dros Fwlch y Ddwy Elor i Gaernarfon.

Wedi cyrraedd Llwybr Cwm Llefrith, aethom drwy Fferm Cwrt Isaf ac, oherwydd fod y tir yn wlyb, cerddwyd ar hyd y ffordd yn ôl at ein ceir, wedi diwrnod caredicach na’r disgwyl gyda’r tywydd.

Diolch i’r canlynol am eu cwmni: Anet, Gwyn, Gwenan, Gwil, Iola Till, Morfudd, Hefin, Haf, John Arthur, Eryl, Angharad, Buddug M, John W. Port, Aneurin, Nia Wyn Seion, Rhodri a Dewi.

Adroddiad gan Rhiannon

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR