HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Cwm Cynfal a Llyn y Morwynion 12 Mehefin


Daeth 16 o aelodau i'r man cyfarfod, sef Y Bont Newydd, filltir i'r de ddwyrain o Lan Ffestiniog. Pont ydy hon dros yr afon Cynfal ac o feddwl ei bod yn fis Mehefin roedd yr hin yn aeafol gydag awel fain o'r gogledd ar brydia. Roedd camfa ger y Bont yn ein galluogi i gael mynediad i ddorlan chwith yr afon Cynfal a llwybr yn mynd â ni nes dod at goedwig. Mae'r llwybr yn amlwg iawn yma ac yn ein harwain at bont bren yn croesi'r Cynfal i lôn darmac lle mae gweddillion Capel y Babell. Wedyn, roedd y lôn drol yn ein harwain am filltir i dŷ hynafol (1492) o'r enw Y Cwm. Dyma ben draw Cwm Cynfal.

O'r fan hon mae llwybr cul yn codi'n serth am 200 m i lefel Pont yr Afon Gam. Ar y dde i ni mae Rhaeadr y Cwm mewn hafn ddu. Cawsom ginio ger pont yr afon Gam a hoe i edrych i lawr tuag at Borthmadog, y Traeth Mawr, a'r Bach. Bu raid i ni groesi'r B4391 gan ddilyn llwybr gwlyb tuag at Lyn y Morynion. Mae hwn ar lefel o 400 m ac yn diwallu dŵr yfed Blaenau a Llan Ffestiniog. O'r fan yma roedd ein llwybr yn gostwng gan fynd heibio Chwarel Bryn Glas, gan groesi'r B4391 eto a dilyn ffordd drol tuag at Bryn Llech a Bryn Erw. Yma codwyd capel newydd Y Babell ym 1904 sydd bellach yn dŷ. Wrth ddilyn y lôn down allan ger lorïau John Roberts a'r Bont Newydd.

Yn ôl y chwedl dyma'r ardal lle roedd Lleu Llaw Gyffes yn byw gyda Blodeuwedd ei wraig. Mur Castell oedd enw eu llys ac yn ôl yr hanes aeth Lleu oddi cartref am rai dyddiau. Yn y cyfamser daeth heliwr o'r enw Gronw Pebr heibio, ac estynnodd Blodeuwedd groeso iddo i orffwys a bwyta. C’nesodd petha rhyngddynt. Syrthiodd y ddau mewn cariad gan gynllwynio i ladd Lleu gyda gwaywffon. Yn hytrach na marw, trodd Lleu yn eryr ond ymhen amser gallodd ei ddewyrth Gwydion ei alluogi i'w newid yn ôl yn ddyn. Mawr fu'r dial a chafodd Gronw ei ladd. Boddodd morwynion Blodeuwedd yn y llyn a chafodd hi ei throi’n dylluan. Mae enwau ffermydd yr ardal yn rhan o'r chwedl – Bryn Cyfergyd, Maen Llech, Coch Wian ar afon Cynfal. Yma darganfuwyd Llech Gronw sef tarian Gronw sydd â thwll gwaywffon drwyddi. 6 milltir, 200 m o ddringo

Adroddiad gan John Parry

Lluniau gan John ar FLICKR