Taith y Sgydau, Pont Nedd Fechan 12 Hydref
Ymgasglodd 14 ohonom (Aled, Huw a Siw Lewis (dod i flasu), Elan Bolton, Elin Meek, Pwt, Emyr, Pens, Marged Levi, Digby a Helen, Rhun a Meirion) y tua allan i dafarn yr Angel ym Mhont Nedd Fechan ar fore sych a Hydrefol i gerdded ar hyd rhai o afonydd prydferthaf ardal y Fforest Fawr sy’n gorwedd i’r de o fynyddoedd Bannau Brycheiniog, ac i fwynhau bwrlwm y dyfroedd mewn sgydau sy’n enwog. Gair tafodiaethol yw “sgwd”, a sy’n disgrifio’r dŵr yn “ysgwyd”.
Mae’r afon Nedd yn dechrau yma wrth i’r Nedd Fechan a’r Mellte gyfarfod, ac mae’r ddwy yma ynghyd â’r Pyrddin a’r Hepste yn afonydd pwysig yn y cylch, a’u llifeiriant yn cael eu harddu gan sawl sgwd. Afonydd yn tarddu ar y Bannau, wrth droed Fan Gyhirych a’r Fan Fraith ac ati ydynt. Cacen haenog o greigiau calchfaen carbonifferaidd, bandiau o dywodfaen ac ati sydd yma, a sydd dros 470 miliwn mlwydd oed, ac wedi eu thrawsffurfio gan iâ a gweithredoedd dyn.
Yn gyntaf, dilynwyd hen lwybr tram sy’n cyd-redeg gyda’r afon Nedd Fechan trwy geunant ddofn a choediog hynafol o dderw, cyll a masarn sydd bron “dylwyth tegaidd” yn ei natur. Roedd y dail eisoes wedi dechrau newid lliw a disgyn i garpedu’r llawr yn frown ac aur, tra islaw roedd yr afon yn sisal i’n cymell, a chyn bo hir daethom at gymer, lle mae’r afon Pyrddin yn llifo fewn iddi.
O’r man hwn, cerddwyd ar hyd glannau’r Pyrddin nes cyrraedd Sgwd Gwladus, lle arallfydol, a lle mae’r afon yn disgyn rhyw chwech metr wrth ffurfio llen o ddŵr. Er bod modd troi’n ôl at y cymer ar y pwynt yma, yn ofalus, gwnaethom oll gerdded tu ‘nol i’r llen gan ddychwelyd at y cymer ar hyd y lan arall.
O’r cymer, dilynwyd eto’r Nedd Fechan, ac ar ein ffordd pasiwyd sawl “sgwd” arall, gyda Sgwd y Bedol, a’r ddwy Ddwli, yr Isaf a’r Uchaf y mwyaf trawiadol. Wedi rhyw awr, daethpwyd at ddôl a man picnic ger Pont Melin-Bach. Wedi paned, croeswyd y bont a dilyn yr hewl fach am ryw gwarter milltir cyn dilyn llwybr arall ger fferm Glyn-Mercher Uchaf, ymlaen dros dirwedd cymysg, a heibio fferm Heol Fawr nes cyrraedd heol darmac ger Capel Annibynol Hermon a sefydlwyd yn 1798, ond bellach wedi cau. Ymlaen ar hyd y ffordd fynydd yma sy’n rhedeg ar y gefnen rhwng ceunentydd y Nedd Fechan a’r Mellte nes cyrraedd lôn garregog ar y chwith â’n harweiniodd heibio fferm Clyn-Gwyn, ac i lawr at geunant y Fellte. Dyma’n awr ddechrau llwybr clasurol “Y Pedair Sgwd”.
Yma, clywyd rhuthr dyfroedd Sgwd Uchaf Clun-Gwyn gryn amser cyn ei gweled islaw yn disgyn yn ddramatig dros y palmentydd a’r slabiau cerrig enfawr a ffurfiodd o ganlyniad i ffawtiau yn y calchfaen. Yna, croeswyd yr afon dros bont fach sydd gerllaw a dilynwyd ei glan dwyreiniol ar lwybr uchel drwy goedwig hynafol arall nes cyrraedd Sgwd Isaf Clun-Gwyn. O’r fan hyn, dilynwyd eto un o’r llwybrau safonol, ond gan hepgor Sgwd y Pannwr y tro yma.
Bwriwyd ymlaen drwy’r goedwig a thros lwybrau carregog gan ddilyn y Mellte at yr afon Hepste, ac at yr enwog Sgwd yr Eira. Llen o ddŵr sydd yn disgyn yn debyg i gawod eira yw hon, a sydd hyd yn oed yn fwy dramatig na Sgwd Gwladys. I barhau gyda’r gylchdaith, rhaid oedd cerdded y tu ‘nôl i hon, a chafwyd llawer o hwyl wrth dynnu lluniau trawiadol. Yna, dringo’r llethrau serth uwchben ei glan deheuol i fyny at yr hen lwybr hanesyddol sy’n rhedeg rhwng Penderyn a Phont Nedd Fechan. Ar y ffordd yn ôl at PNF gwelwyd Mynydd Rhigos yn y pellter a hefyd olygfa tuag at faes glo De Cymru. Disgynodd y llwybr o’r tir uchel i lawr at yr afon Mellte unwaith eto, ac aethpwyd ar hyd llwybr “Y Powdr Du”, heibio i olion hen adeilad lle cynhyrchwyd ffrwydron flynyddoedd yn ôl. O’r fan hyn dilynwyd yr afon i lawr at glogwyn enwog Craig y Ddinas. Yma hefyd mae’r Bwa Maen enwog sy’n nodwedd ddaearegol ddramatig. O’r fan hyn dychwelwyd ar hyd yr hewl fawr heibio’r tai yn ôl i’r man cychwyn.
Roedd hon yn daith oddeutu 11 milltir o hyd.
Adroddiad gan Meirion Jones
Lluniau gan Meirion ar FLICKR