HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Taith y Fforest Fawr 13 Ebrill


Dyma saith ohonom (Rowena Alison Simeon ein harweinydd, David, Eurig, Pens a Dewi) yn ymgasglu ym maes parcio Blaen Llia (SN927 164) i’r gogledd o bentref Ystradfellte a’r Gorllewin o’r  gronfa ddwr.

Yn ôl y rhagolygon diwrnod niwlog a gwlyb oedd yn ein disgwyl a fel oedd hi niwl a glaw bu gyda ni trwy’r dydd!
Fel mae yn aml ar y Bannau mae dilyn llwybrau mewn niwl yn medru fod yn heriol iawn. Felly, mae angen map a chwmpawd yn holl bwysig a’r gallu i’w defnyddio.

Roeddwn mewn dwylo gyda gyda Simeon yn ein harwain i fyny Fan Llia a Fan Dringarth seibiant bach wrth nant y Gaseg cyn troi i’r Dwyrain i gopa Fan Fawr (734 m).

Gan ddilyn llwybrau mwdlyd dyma ddisgyn i Rhos Dringarth â chyrraedd copa Craig Cerrig gleisiaid. Gan droi i'r gorllewin dyma ddilyn ffens uwchben Craig Cwm Du cyn disgyn yn serth i heol rufeinig Sarn Helen. Wedi tua dwy filltir o gerdded ar hyd Sarn helen dyma gyrraedd nôl i’r man cychwyn yn wlyb trwyddo ond gyda boddhad o gwbwlhau y daith mewn cwmni da.

Taith o thua 12 milltir gyda esgyniad o 886 m. Taith yn sicr i’w hail adrodd mewn tywydd da i fanteisio ar y golygfeydd godidog sydd i’w cael yn ardal y Fforest Fawr.

Adroddiad gan Dewi Hughes

Lluniau gan Dewi ar FLICKR