Pedol Iawn Yr Wyddfa 13 Gorffennaf 
                   
	
	               
                   
                             
	
    
	                          
                                       	
	
      
  
Syniad Eryl oedd y daith yma, piti iddo fethu neud hi ond braint oedd  cael camu i    ’r adwy ac arwain. A syniad gwych  oedd hi hefyd, ymestyn Pedol Yr Wyddfa i gynwys Carreg Gwalch ar y dechrau a  Gallt y Wenallt ar y diwedd.
      
    Er bod tri  chwarter o’r daith yn gyfarwydd iawn i mi doedd gen i ddim syniad sut oeddem ni am fynd o  lethrau Gallt y Wenallt yn ôl i Pen y Gwryd. Dwy reci yn ddiweddarach dwi'n meddwl ges i lwybr go lew ond fel  ddywedais i'r criw ar  ddechrau'r daith     “os oedd rhywun ddim yn hapus  efo'r llwybr,  syniad Eryl oedd o…” .
    
    Ar ôl ychydig o  drafferth efo'r bws dyma  gyfarfod yn Pen y Pas yn ganol prysurdeb a'r sŵn da ni wedi dod i ddisgwyl  bellach. Criw o 17 sef Gerallt, Aled, Wil, Ali, Anwen, Jano, Sioned,  Sandra, Elen, Eurig, David, Adrian, Steve, Nia Wyn, Erwyn ac Anna.
    
    Ar ôl cerdded  cwta canllath i fyny llwybr y mwynwyr dyma droi fyny am Carreg Gwalch a gadael  y torfeydd a'r sŵn. Braf oedd  cerdded ar y grib a gweld neb nes cyrraedd Bwlch Moch a mynd ymlaen am  Crib Goch. Doedd pedwar aelod o'r criw  erioed wedi bod dros y grib o'r blaen ac roedd cymysgedd o arwsyd  a brwdfrydedd yn amlwg.
    
    Rhaid fi ddweud mod i  erioed wedi gweld gymaint o bobl ar Crib Goch. Roedd y rhesi o bobl yn aros i  fynd ymlaen ar hyd y grib yn fy atgoffa o'r lluniau o bobl yn ciwio i fynd  dros yr Hilary Step ar Everest! Er hyn dwi'n eithaf siŵr fod pawb  wedi mwynhau'r her a braf  oedd cael seibiant bach ym Mwlch Coch.
    
    Doedd fiw i ni  din droi gormod ym Mwlch Goch gan fod gryn bellter i fynd, felly ymlaen dros  Crib y Ddysgl a ni. Toc wedi cychwyn dyma'r golygfeydd yn diflannu ar glaw yn  dod a dyna sut oedd hi  wrth i ni frysio dros copa'r Wyddfa i ddianc o'r torfeydd.  Erbyn cyrraedd copa Lliwedd roedd y glaw a'r cymylau wedi cilio a braf oedd gweld y golygfeydd eto.
    
    Ar gopa Lliwedd Bach roedd Iolyn yn aros amdanom ac ymunodd efo ni am  weddill estyniad y bedol. Ar ôl gadael y llwybr sydd yn mynd lawr o Lliwedd a mynd ymlaen am Gallt y Wenallt cawsom y  mynydd i ni ein hunain unwaith eto. Mi ddaru pawb fwynhau  y daith i lawr crib Gallt y Wenallt a croesi peipan ddŵr Cwm Dyli. Ychydig o frwydro drwy'r rhedyn i  gyrraedd Nant Cynnyd ac wedyn tipyn o duchan wrth ddringo yn ôl i fyny i'r hen ffordd cyn ei dilyn yn ôl i Ben y Gwryd.
    
    Wrth gyrraedd yn ôl i Ben y Gwryd doedd dim oedi ac  ar ein penna fewn i Westy Pen y Gwryd am beint haeddiannol, pawb yn gytyn ein bod wedi cael diwrnod  gwych o fynydda. Roedd pawb wedi mwynhau'r her, y tirwedd amrywiol a'r syniad o  ymestyn y bedol. Diolch yn fawr i Eryl am y syniad ac i pawb am eu cwmni hwyliog fel arfer.
      
      Adroddiad gan Dwynwen
      
    Lluniau gan Gerallt, Sioned a Steve  ar FLICKR
