Taith gylch yn ardal Dolwyddelan 13 Tachwedd

  
Ar fore braf a distaw  daeth deunaw ohonom at ein gilydd i grwydro o amgylch ardal Dolwyddelan. Ar ôl cynhesu drwy gerdded yn weddol gyflym i  fyny’r ffordd goedwig, dyma droi i esgyn y llwybr igam-ogam, ac aros am baned  cyn cyrraedd y  bwlch ger Pen y  Benar. Taith hamddenol wedyn i lawr yr  allt tuag at Bertheos, lle gawsom ginio yn yr haul, gyda golygfeydd gwych o  Foel Siabod, Y Glyderau a’r Wyddfa.
      
Croesi’r ffordd fawr,  heibio gorsaf drên Blaenau Dolwyddelan ac ar hyd y ffordd tarmac nes troi i’r  ffordd werdd wrth fferm Pen y Rhiw ac anelu yn ôl am y pentref heibio’r  castell.
Ar y daith – Dafydd,  Dilys. Aneurin, Tudor, Arwel, Haf, Gwyn, Anet, Gareth, Margiad, Iona, Richard,  John Wms, John Parry, Raymond.  Hefyd,  Eifiona a Siân (darpar aelodau).
      Adroddiad gan Raymond Griffiths.
      
    Lluniau gan Aneurin a Gwyn ar FLICKR
