Drygarn Fawr a Carreg yr Ast drwy Gwm Gwesyn 14 Medi
Braf iawn oedd croesawu pedwar ar ddeg o gyd-fynyddwyr o dde, chanolbarth a gogledd Cymru i ymuno â’r daith hon.
Cylchdaith oedd hon yn arwain at Drygarn Fawr, un o gopaon anghysbell mynyddoedd yr Elennydd, o gyfeiriad y de, drwy Gwm Gwesyn. Mae hwn efallai yn lwybr llai poblogaidd at y copa na’r llwybrau o’r gogledd, ac er bod nifer o’r criw wedi cerdded dros Drygarn Fawr yn y gorffennol, llwybrau yn esgyn o gyfeiriad gogleddol ardal Cwm Elan oeddent wedi eu dilyn yn bennaf.
Y man cyfarfod oedd y maes parcio wrth ymyl neuadd Abergwesyn (cg SN 85988 53069). Gyda’r tywydd yn ddigon dymunol a’r rhagolygon am ddiwrnod sych a heulog, dyma ni’n dechrau ar y daith. Dilyn y ffordd am ychydig, cyn troi i’r chwith at Fferm Glan Gwesyn, ac yna ymuno â’r llwybr ar ochr ddwyreiniol yr afon a arweinia lan drwy’r cwm. Un o nifer o afonydd bychain sy’n tarddu ym mynyddoedd yr Elennydd yw’r Gwesyn. Mae’n tarddu o lethrau Drygarn Fawr ac yn llifo drwy gwm hyfryd, tawel ac anghysbell am ryw 4.5 milltir i’r de, nes ymuno â’r Afon Irfon yn Abergwesyn.
Yn ogystal â’r golygfeydd trawiadol o’r cwm, un o brif nodweddion y cwm yw Sgwd y Ffrwd, ac ar ôl rhyw dair milltir o gerdded ag esgyn yn raddol, dyma ni yn cyrraedd y sgwd. Safle perffaith am saib a phaned.
Ymlaen wedyn tuag at Drygarn Fawr, gyda’r tirwedd nawr yn newid i fod yn fwy corsiog. Nid oedd llwybr amlwg i’w gael ar y cymal yma ac felly rhaid oedd cerdded dros tipyn o dir gwlyb, garw, drwy borfa Molinia uchel. Fe lwyddwyd i osgoi y tir mwyaf corsiog (efallai bydde rhai o’r cerddwyr yn anghytuno!) drwy wyro bant o’r afon a dilyn llwybr ychydig yn uwch tuag at odre Drygarn Fawr.
Ar ôl peth amser daeth un o garneddau nodweddiadol siap cwch gwenyn Drygarn Fawr i’r golwg, ac ymhen tipyn fe gyrhaeddon y copa. Ar Drygarn Fawr, sef pwynt ucha’r daith, (645 m, 2,116 tr), cafwyd cyfle am ambell lun a mwynhau’r golygfeydd 360° o’n cwmpas. Tua’r de, roedd Bannau Sir Gâr, Brycheiniog a’r Mynyddoedd Duon i’w gweld yn glir tu hwnt i’r Epynt, gyda Phumlumon a Chwm Elan i’r gogledd. Mae yna ddwy garn fawr, siap cwch gwenyn ar y grib, un ar bob pen. Er bod y carneddau gwreiddiol yn hannu o’r Oes Efydd, credir i’r ddwy garn amlwg yma cael eu codi mor ddiweddar â’r ugeinfed ganrif.
Dilyn y llwybr wedyn i gyfeiriad y gogledd ddwyrain am dipyn, cyn gwyro oddi arno a dilyn trac beic cwad i gyrraedd Carreg yr Ast (579 m). Cinio yma, gan edrych draw dros gymoedd Claerwen ac Elan.
Nôl at y llwybr wedyn drwy groesi tipyn o dir garw i’w gyrraedd, a wedyn ei ddilyn ar draws mwy o dir gwlyb, corsiog i gyfeiriad Bwlch y Ddau Faen, heibio i gylch cerrig, cyn esgyn at garn arall (Carnau, 537 m). Mae’r ardal hon yn frith o olion o’r oes Efydd, gan gynnwys tua 14 carn yn ardal Comin Abergwesyn.
Roedd y llwybr yn gwella yn raddol o hyn ymlaen, er, rhaid oedd croesi ambell i nant eto, gan gynnwys Nant Gewyn, ac yna dilyn y cwm cul dwfn trawiadol am ychydig. Roedd y llwybr nôl tuag at y de a’r man cychwyn yn weddol amlwg wedyn, yn wahanol i’r llwybrau dros yr ucheldir corsiog.
Dilyn llwybr coedwigaeth drwy Cefn Garw am dipyn, gyda’r coed pinwydd unffurf mor wahanol i’r amrywiaeth o goed collddail hynafol a welwyd yng Ngwm Gwesyn. Yna ymlaen at Carreg Lwyd a heibio Glan Gwesyn eto, cyn dychwelyd at y ceir i gwblhau cylchdaith o tua 12 milltir, gyda 2,300tr o esgyn.
Diolch am gwmni hwyliog y criw, sef Pwt, Dewi, Alun, Paddy, Helen, Digby, Rhun, Margaret, Llŷr, Dilys, Aneurin, Meirion, Gwen ac Eileen.
Adroddiad gan Eurig.
Lluniau gan Eurig, Dewi ac Aneurin ar FLICKR