Pedol Stiniog 14 Medi
Pur anaml y daw’r cyfle i lythrennol rowlio o’r gwely, cerdded drwy’r drws ffrynt ac allan drwy giat yr ardd i gychwyn taith, ond felly oedd dydd Sadwrn i mi. Mor eiddgar oedd rhai o’r cwmni i gychwyn yr her, fod iddynt gyrraedd ‘Stiniog yn gynnar – gan ffonio fi am 6yb yn holi lle roeddwn i, ac os o’n i di cysgu’n hwyr! Doeddwn i ddim wrth gwrs, gan mai 6:15yb oedd yr amser oedd pawb i gwrdd, i gychwyn y daith am 6:30yb.
Wrth edrych ar rhagolygon yn hwyr nos Wener, i wirio tywydd at ddydd Sadwrn – diwrnod braf oedd hi’n addo, ond yn amlwg roedd pethau wedi newid dros nos, gan mai niwl, ychydig o law, a gwyntoedd cryfion fu i ni brofi ar hyd y daith.
Yn brydlon am 6:30, gyda phawb wedi ymgynnull, dyma fi yn croesawu’r cwmni. Pe byddwn wedi arwain y daith hon tua tair mlynedd yn ôl, gallwn fod wedi rhoi croeso “swyddogol” i bawb, fel Maer y Dref, ond gan mymryn o werinwr daeth y croeso tro yma!
Wrth i ni gychwyn, roedd y wawr yn dechrau torri, a dim angen torch pen wrth i ni gerdded drwy stryd ‘Stiniog, tuag at Glan y Pwll, a llwybr sy’n dilyn godrau Nyth y Gigfran tuag at Dolrhedyn. Wrth anelu i fyny allt Stwlan, roedd y Moelwyn i weld yn gwisgo’i gap, a mewn amdo o niwl trwchus.
Wedi cyrraedd llyn Stwlan, roeddem yn y niwl, a dyna fu’r hanes wrth i ni ymlwybro drwy’r hen chwarel, drwy ganol Moelwyn Bach ac at y copa. Roedd y gwynt pellach yn cryfhau hefyd, felly byr iawn fu’n ymweliad a’r copa cynta, cyn anelu dros Craig Ysgafn, ac esgyn Moelwyn Mawr – Pwynt ucha’r diwrnod.
Doedd y niwl dal heb godi, felly i lawr a ni hyd grib gogleddol Moelwyn Mawr at gopa’r Garnedd Lwyd (neu’r Moelwyn Mawr north ridge, yn ôl Mr a Mrs Nuttall!). Hon oedd y copa a ddilëwyd oddi ar rhestr mynyddoedd Cymru, yn gwbwl ddi-seremoni rhai blynyddoedd yn ôl, gan greu stŵr mawr (a dealladwy) yn lleol, gan fod y cyfryngau wedi cam adrodd y stori, gan adrodd bod Moelwyn Mawr pellach ddim yn fynydd!!
Wrth i ni ostwng a chroesi drosodd i gyfeiriad Moel yr Hydd, roedd y niwl yn dechrau codi, ac yn cynnig rhywfaint o olygfeydd i ni – y Cnicht, chwarel Rhosydd a’r Moelwynion.
Erbyn i ni esgyn Moel yr Hydd, roedd y gwynt yn dechrau cryfhau, felly penderfynwyd mynd lawr ar ein pennau i chwarel Rhosydd, lle gawsom gysgod i gael seibiant, paned a rhywbeth i fwyta.
Mae’r ardal hon yn drwm o hanes diwydiannol, a gall rhywun ond ddychmygu’r caledi oedd yr hen chwarelwyr yn gorfod dioddef, wrth eu gwaith ac wrth fyw yn y barics – barics cafodd sylw go lem gan arolygwyr iechyd y ganrif ddiwethaf, mae’n debyg.
Ar ôl i bawb cael seibiant a phaned, ymlaen a ni wedyn i gyfeiriad Llyn Adar, dros dir corslyd Cwm Corsiog. Ardal anial iawn, hawdd mynd ar goll ynddi yn y niwl, ond diolch i’r drefn, cawsom y llwybr yn reit ddidrafferth at y Llyn.
Wedi cyrraedd Llyn Adar, ymlaen a ni i gyfeiriad copaon Ysgafell Wen – mae 3 copa iddi! Gellir dadlau effallai y gall Ysgafell Wen gael ei hepgor o’r her, gan nad ydynt yn gorwedd o fewn ffiniau Plwyf Ffestiniog, ond maen’t yn ddi-os yn rhan o’r Moelwyn, a gweddus ydi i’w cynnwys.
Wrth ymlwybro dros gopa pella Ysgafell Wen, roedd y gwynt wedi cryfhau yn arw – bron faswn i’n mentro bod ambell hyrddiad dros 50 mya, a rhai ohonom yn cael trafferth aros ar ein traed, a felly y buodd hi wrth i ni fynd dros weddill ei chopaon, a dros Moel Druman, Llyn Conglog a’r Allt Fawr.
Bu i ni gael egwyl byr arall ger copa’r Allt Fawr, a gobeithiaf mai troi cefnau at y gwynt oedd y cwmni, ac nid at dref Ffestiniog, wnaeth pawb, wrth gysgodi o’r gwynt i fwyta!
Erbyn hyn roeddwn wir yn meddwl y byddem yn gorfod byrhau y daith, oherwydd y gwynt, a dyma fi’n sôn y byddem yn gwneud penderfyniad wedi cyrraedd Bwlch y Gorddinan ar yr A470.
I lawr a ni ar ôl cinio sydyn, dros Iwerddon (nid y gwlad! Ymddengys mai hen air Cymraeg yw Werddon am dir mynyddig, gweddol llyfn a gwyrdd!) ac ymhen dim roeddem wedi cyrraedd yr A470.
Wedi trafodaeth sydyn, a phawb yn teimlo bod y gwynt di gostegu, y penderfyniad oedd i barhau a’r her!
Felly, ymlaen at gilfan ogleddol Bwlch y Gorddinan, gan groesi camfa, a dilyn llinell mwy neu lai unionsyth a serth i gopa Moel Farlwyd.
Er bod y copa olaf o fewn golwg pellach, doedd y dringo heb ddarfod, a rhaid oedd anelu lawr at ochr ogleddol Llyn Barlwyd, cyn esgyn yn serth unwaith eto, i gyraedd copa Moel Penamnen.
Roedd cyfle am ychydig o gerdded rhwydd a brafiach dan draed, wrth i ni anelu at Foel Fras a chwarel Cwt y Bugail (y gwreiddiol!), a roedd niwl y bore wedi hen ymadael erbyn hyn, er bod y gwynt yn gyndyn o wneud yr un fath.
Wedi croesi tir go gorslyd, a heibio twll y chwarel, i lawr a ni at ponc y felin, lle cafwyd egwyl byr arall am fwyd, cyn bwrw mlaen a dringfa fawr olaf y dydd.
O Cwt y Bugail, dyma ni yn dilyn ffens mwy neu lai yr holl ffordd at gopa’r Graig Ddu (ia, mae i hon enw dyfeisgar arall gan Mr a Mrs Nuttall – The Manod Mawr North Top…) a cafwyd golygfeydd gwych o weddill y Moelwynion, a gweddill ein taith o’i chopa. Roedd y copa olaf yn ein dwylo ni erbyn hyn, a phawb yn teimlo’n hyderus y byddem yn cwblhau’r daith.
Felly ar ôl seibiant byr ar gopa ‘r Graig Ddu, ymlaen ddaru pawb lamu’n hyderus at Gopa Manod Mawr, lle tynnwyd ambell lun i goffau’r fath her.
I lawr a ni wedyn dros hen inclên chwarel Graig Ddu ac i lawr i Chwarel Llyn Dŵr oer. (Nid oedd sôn am yr hen “gar-gwyllt” byddai’r hen chwarelwyr yn defnyddio i hwyluso eu taith am adref, ar ôl diwrnod o waith, a siŵr braidd byddem ni oll wedi croesawu’r fath reid ar ddiwedd ein taith!).
Mi wnes i rhoi cynnig i’r cwmni mai doeth bydde i ni gynnwys Manod Bach, er mwyn darfod yr her yn gywir a thaclus. Y penderfyniad pendant oedd i’w hepgor, gyda ambell air cryfach ‘na “NA” i ategu hyn!!
I lawr a ni felly ar ein pennau i ganol tref Ffestiniog, i ddarfod y daith, a hynna o fewn deg munud i’r machlud!
Wrth sgwrsio ar y ffordd i lawr, dyma ni yn dechrau cymharu hi a thaith y “Traws-Rhinogydd” gyda ambell i un oedd wedi cwblhau’r ddwy, yn teimlo bod y Bedol yn galetach – dipyn o syndod i mi, gan mai fel arall o’n i yn ei theimlo hi, ond yn sicr, ma hon yn daith sy’n weddus o’i chynnwys yn yr un rhestr a’r 15 copa, Môr i Môr a’r Rhinogydd, fel un o rhai mwyaf heriol Cymru! (cytuno?!).
Diolch yn fawr iawn i’r cwmni, Gethin, Sandra, Aled, Alice a David, oedd yn griw hawdd iawn eu tywys, ac am ymddiried eu hunain i’m gofal, i’w harwain dros gopaon Ffestiniog.
Rhai ystadegau o’r criw: 50% yn byw ar Ynys Môn, ac roedd 50% wedi gwneud yr her o’r blaen! 21 milltir, 6,398 tr o esgyniad, ac 13 awr o gerdded, sy’n amhosib i bramiau ;)
Adroddiad gan Erwyn Jones.
Lluniau gan Erwyn ar FLICKR