HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tal y Fan o Sychnant 14 Rhagfyr


Er ychydig o ddryswch o pa un o’r 3 maes parcio ym Mwlch Sychnant i’w ddefnyddio (yn rannol fai arnaf i, gan i mi gredu mai dim ond dau faes parcio oedd yn bodoli, ac wedi sôn wrth bawb i barcio yn yr un agosaf i Dwygyfylchi, ond o ddallt, dylaswn i di sôn mai’r un canol oedd angen, gan fod 3 maes parcio!), llwyddodd pawb i gyrraedd y man cychwyn yn brydlon i gychwyn y daith am 9:15 y bore.

Pan gynnigiais y daith, meddyliais wrth fy hun y baswn yn lwcus o gael tua 10 ar y daith, gan feddwl byddai pawb yn brysur gyda phartion, a siopa Nadolig, a chefais dipyn o synod i 20 gofrestru ar gyfer y daith – dipyn o waith bugeilio!

Wrth gychwyn, o’r maes parcio tuag at Craig y Fedwen, dyma’r glaw yn cychwyn, ac ar ôl ychydig o ymbalfalu i roi dillad glaw ymlaen, ymlaen a ni tuag at Llyn Pen Ffridd Newydd ag i ben Maen Esgob, un o is-gopaon y carneddau, ac erbyn hynny, roedd y glaw di hen gilio, fel roedd proffwydi tywydd wedi addo.

Wedi saib sydyn i gael ychydig o luniau, ymlaen a ni wedyn, gan ddringo yn raddol tuag at Maen Amor, lle mae casgliad diddorol o feini mawr – wedi eu cludo a dyddodi yno adeg oes yr ia diwethaf amwn i. Roedd haul y gaeaf pellach yn tywynnu yn isel yn y ffurfafen, ac yn dipyn o boendod i’r llygaid wrth gerdded ar hyd rhostir Cefn Maen Amor tuag at Chwarel Tal y Fan.

Wrth i ni nesáu at y chwarel, dyma ni yn sylwi ar ffigwr unig yn sefyll ar ben y domen, a finnau’n sôn am arferiad un o hen Stiwardiaid chwarel yr Oakeley, Ffestiniog, ple byddai yn sefyll ar dop y llwybr syth oedd yn arwain i’r gwaith, yn barod I gyfarch y ‘straglars’ hwyr, gan ddweud wrthynt yn swta “Triwch eto fory”, a’u hel am adref. (ac eithro’r dynion fyddai’n mynychu yr un Capel ag o – byddai maddeuant, a chroeso iddynt hwy i’r gwaith!). Fel rheolwr chwarel, dwi’n falch o adrodd nad ydw i yn ymddwyn yn yr un modd, neu buan iawn byddai “HR” ar fy ngwar!

Ond yn wir, nid ffigwr unig a diarth oedd ar ben y domen, ond Aneurin Philips, a braf oedd ei groesawu, ynghyd a Dilys i ymuno a ni.

Penderfynwyd cael ysbaid bach am baned yn y chwarel, o gysgod y gwynt. Mae’n debyg mai chwarel o’r 16ed ganrif yw hon, breuddwyd ofer arall yn ôl ei maint, ac ella da o beth am hynny- neu byddai’r tirwedd yn tra-gwahanol erbyn hyn.

Ymlaen a ni o gaban y chwarel i gopa Tal y Fan, cwta ugain munud o gerdded i bwynt ucha’r dydd, a bellach roedd y niwl wedi dod i’n cyfarch, ac atal y golygfeydd trawiadol sydd i’w cael o’r copa. Wedi cael llun sydyn ger y piler triongli, ymlaen a ni, a disgyn dros dir creigiog i’r bwlch, cyn esgyn yn raddol, wrth ganlyn wal gerrig cywrain, i gopa’r Foel Lwyd.

Bach iawn oedd yr oedi ar gopa Foel Lwyd, gan bod y niwl yn mynnu bod yn gwmni i ni ar y daith, felly i lawr a ni gyda’r wal i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen.

Wrth i ni fynd lawr am y bwlch, ffarweliodd y niwl a ni, a dyma fanteisio ar gysgod dwy wal am ysbaid am ginio, a phawb i weld mewn hwyliau o glywed y sgwrsio, a’r chwerthin, ac yn wir, roedd sŵn sgwrsio a chwerthin yn gyfeiliant i’r holl daith – yn arwydd da i mi fel arweinydd bod pawb yn mwynhau!

Ar ôl cinio, i lawr a ni am Fwlch y Ddeufaen – bwlch sy’n dod a sawl atgof i’r rhai ohonom sydd ‘di cyflawni her y 15 copa, gan ddarfod yma, yn hytrach na Abergwyngregyn!

Roedd y cerdded llawer haws pellach, wrth ymlwybro ar hyd ffordd tarmac (ac honnir fod yn wreiddiol yn rhan o Sarn Helen, er mae rhai yn amau cywirdeb hyn!), heibio i Cerrig Pryfed – cylch o feini o’r oes Neolithig mae’n debyg, ac ymlaen a ni at gyfeiriad Cae Coch.

Ffarweliodd Aneurin a Dilys a ni yma, gan anelu am Maen y Bardd ac am adre, wrth i ni fynd ymlaen heibio i fwthyn Cae coch, i ddilyn llwybrau braf hyd godrau Tal y Fan, heibio i Graig Celynin, a gwaelodion Maen Amor a Maen Esgob, gan osgoi copaon y bore y tro yma, ac anelu nôl i Fwlch Sychnant i orffen ein taith.

Roedd golygfeydd godidog pellach i’w gweld yn haul y dydd, ac olion aml-oesol yr ardal i’w gweld. Ardal sydd a thystiolaeth o law dynoliaeth, o gyfnod cynnar y Neolithig, (Pen y Gaer, Maen y Bardd a sawl cylch o feini hirion eraill), i oes y Rhufeiniaid (Sarn Helen a Canovium, Caerhun), yr oesoedd canol, (Castell Conwy) a’r cyfnod modern holl bresennol.

Carwn ddiolch I bawb am ymuno a mi ar y daith, (byddai di bod yn daith unig iawn fel arall! a gwneud fy ngwaith fel arweinydd yn un mor hawdd! Taith sydd gyda llaw yn anaddas i bramiau!)

Y cwmni diddan oedd:
Aaron, Morfydd a Hefin, Elen a Meinir Huws, Dafydd Legal, Alice, Gwyn H, Eifion a John Arthur – y deuawd o Lanrwst, Eirwen, Sandra, Huw, Gaenor, Iolo, Dafydd Dinbych, Rhys Dafis, Keith, Dei, Ac hefyd Dilys ac Aneurin.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb!

Adroddiad gan Erwyn Jones.

Lluniau gan Erwyn ar FLICKR