HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Pen y Gaer, Dyffryn Conwy 15 Mai


Roeddem wedi bwriadu cynnwys Pen y Gaer fel rhan o daith i gopa’r Drum yn ystod yr haf y llynedd ond bu hynny’n ormod i ni ar y diwrnod a chytunwyd i’w gadael at ddiwrnod arall. Heddiw, felly, oedd y cyfle i ymweld â bryngaer hanesyddol Pen y Gaer, Dyffryn Conwy, a daeth 13 ohonom at ein gilydd i wneud hynny.

Cychwynnodd y daith ym mhentref Rowen gan gerdded i fyny drwy’r pentref cyn troi oddi ar y ffordd a chodi’n raddol ar lwybrau drwy’r caeau. Ymhen rhyw awr roedd cyfle am seibiant a phaned ac yna rhagor o ddringo i gyrraedd Bwlch y Gaer. Ar y ffordd yno aeth Iolyn i ymrafael â brigyn coeden ond fe’n sicrhaodd ni fod yr anaf a gafodd i’w dalcen yn edrych yn waeth nag oedd o mewn gwirionedd!

O Fwlch y Gaer rhyw hanner milltir digon hawdd sydd yna i gyrraedd copa Pen y Gaer. Mae’r fryngaer drawiadol hon yn dyddio’n ôl tua 2,300 mlynedd i Oes yr Haearn, ac mae olion y muriau amddiffynnol i’w gweld yn glir. Mae iddi safle amlwg ar gopa bryn sy’n sefyll yn uchel uwchben y dyffryn ac yno y cawsom ginio gan edmygu’r golygfeydd eang o Fae Llandudno a’r Afon Gonwy yn dolennu tuag at Ddolgarrog. Tu cefn i ni roedd copaon y Carneddau i’w gweld yn glir.

I gwblhau’r gylchdaith aethom i lawr drwy goedlannau cynhenid ar gyrion pentref Llanbedr y Cennin gydag  arwyddion y gwanwyn yn frith o’n cwmpas – y gog yn canu, y ddraenen wen yn ei blodau a charpedi o glychau’r gog a chraf y geifr yn drwch ar lawr. Ac i roi diweddglo i daith hamddenol ac amrywiol cawsom baned dderbyniol iawn yn yr ardd.

Y cerddwyr oedd: Eirwen, Lynne, Dafydd (Dinbych), John Arthur, Iolyn, Eirlys, Gareth (Bangor), Iona, Clive, Margiad, Tudor, Aneurin a Dilys.

Adroddiad gan Aneurin a Dilys

Lluniau gan Aneurin a Dilys ar FLICKR