Moel Siabod 16 Mawrth
Cyrhaeddodd saith ohonom y cilfannau sydd ar ochr Conwy i’r ffin sirol ger Pen-y-Gwryd mewn da bryd i ddal y Sherpa i Bont Cyfyng. Roedd y gilfan rydan ni’n ei defnyddio fel arfer bron yn llawn am 08.30!
Roedd hi wedi bod yn fore hynod o braf ond newidiodd y tywydd pan ymunodd Gwyn Llanrwst a John Arthur â ni ar Bont Cyfyng (syrpreis syrpreis!). Cawsom law ysgafn wedyn tan i ni gyrraedd y maen dwad enfawr sydd wrth droed y Ddaear Ddu. Er mawr siom i Gwyn, cawsom hindda am rhyw ychydig a chael tamed o ginio wrth y maen.
Dilynodd saith o’r criw – ambell un am y tro cyntaf – y llwybr sy’n arwain at y copa wrth odrau’r Ddaear Ddu ac aeth Sandra a Richard i sgramblo’r grib. Cyfarfod yn y lloches wrth y copa am ginio bach arall sydyn cyn cael tynnu lluniau ar y copa ac anelu am Moel Gîd trwy’r niwl. Dilyn y ffens wedyn cyn troi i gyfeiriad Pen-y-Gwryd ym Mwlch Rhiw’r Ychen.
Tri ohonom yn achub ar y cyfle i gael peint yng Ngwesty Pen-y-Gwryd cyn ei throi hi am adre.
Diolch yn fawr i Dafydd, John Arthur, Gwyn Llanrwst, Gwyn Bangor, Dilys, Arwel, Rhiannon, a Sandra am eu cwmni rhadlon.
Adroddiad gan Richard Roberts.
Lluniau gan Sandra a Richard ar FLICKR