HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Parc Coed Cymerau 16 Tachwedd


Ar Dachwedd 17 daeth 11 o aelodau ynghyd ym Mharc Cymerau sydd ddwy filltir islaw pentre Tanygrisiau. Oddi yma mae llwybr drwy'r Coed Cadw i lawr i Rhyd Sarn lle mae pont bren a llwybr serth yn croesi at Glogwyn y Geifr gan arwain i orsaf y tren bach yn y Dduallt. Doedd y tywydd ddim yn garedig iawn y bora hwnnw a gallom fanteisio ar Ystafell Aros yr orsaf i gael ein cinio. Diddorol oedd gweld y lein yn gwneud dolen enfawr er mwyn codi lefel gwely'r rheilffordd er mwyn cyrraedd Tanygrisiau. Ar ôl troedio am beth amser ar y gwastad daethom i Blas y Dduallt, a fu yn gartref i'r Llwydiaid am dri chan mlynedd ac yn ddiweddar i'r Cyrnol Cambell a wnaeth lawer o welliannau a gorsaf breifat iddo'i hun i’w alluogi i fynd i lawr i Borthmadog.

Mae'r llwybr yn dal ymlaen gyda golygfa wych o'r Ddwyryd, Ynys Gifftan a Chastell Harlech yn y pellter nes dod at fwthyn unig o'r enw Coed y Bleiddiau. Mae'n eiddo i'r Landmark Trust erbyn hyn ac yn cael ei osod. Mae i'r bwthyn sydd filltir o'r tarmac agosaf gryn hanes. Bu Syr Granville Bantock yma 1913-1930. Mae yn enwog am sefydlu ac arwain Cerddorfa Symffoni Birmingham. Y tenant nesa 1930-47 oedd Harry St John Bridger Philby sydd yn enwog am ei anturiaethau gyda Lawrence of Arabia yn y Dwyrain Canol a'r ffaith iddo gefnu ar ei wlad i fod yn fradwr. Roedd yn ffrind agos iawn i William Joyce (Lord Haw Haw) a symudodd i'r Almaen i gynorthwyo Hitler. Roedd gan Jack Philby fab o'r enw Kim a ddaeth yn fwy enwog fyth.

Roedd ein llwybr yn dal ar y tir uchel ac yn mynd i gyfeiriad y gorllewin drwy Goedydd Tŷ Coch am sbel nes colli uchder a dod at Lyn Mair ac oddi yma mae llwybr dymunol iawn yn ein arwain i Blas Tan y Bwlch ac i westy'r Oakley. Dymunol oedd cael newid dillad a chael paned a sgwrs a nol y ceir cyn ein Cyfarfod Blynyddol.

Adroddiad gan John M Parry

Lluniau gan Dilys a Gwyn ar FLICKR