Cylch Moel-y-Gest 17 Ebrill
Roedd hi’n sych pan ymgasglodd 21 ohonom ym maes parcio Borth y Gest, dipyn o ryddhad ar ôl misoedd o law diddiwedd. Ambell gawod oedd rhagolwg dyn y tywydd, ond yn ffodus, ddaeth y rheiny ddim chwaith. I ffwrdd a ni felly, ar hyd Llwybr yr Arfordir cyn belled â Port lle cawsom sgwrs ddifyr gan John P am gysylltiad y dref a’r môr ac am yr Amgueddfa Forwrol mae’n gwirfoddoli ynddi. Cyn gadael y dref dringwyd y Bryn Coffa, lle oedd yn ddiarth hyd yn oed i rai o’r cerddwyr lleol. Ymlaen wedyn ar hyd y cyt, gyda chyrion Tremadog, heibio’r Alltwen ac ar hyd llwybr dymunol trwy goedlan lle cawsom saib am baned.
Wedi cyrraedd Penmorfa a chroesi’r ffordd fawr dilynwyd y lôn gul at yr eglwys. Roedd yr adeilad yn agored a chawsom gyfle felly i gael cipolwg ar y tu mewn yn ogystal â sbaena yn yr hen fynwent. Toc, trodd y lôn wyneb caled yn lôn drol lle’r oedd peth wmbrath o dorri coed yn digwydd ac angen swatio yn y clawdd wrth i lwythi trymion fynd heibio.
Cyrraedd Pont y Wern a chroesi’r ffordd fawr unwaith eto cyn dilyn godre Moel y Gest heibio Bron y Foel, cartref Hywel y Fwyall, milwr proffesiynol a benodwyd yn gwnstabl Castell Cricieth tua 1359.
Wrth groesi’r lôn bost tua Morfa Bychan sylweddolodd yr arweinydd ei fod wedi gadael ei ffyn cerdded rywle ar y daith, ac yn ôl a fo i chwilio amdanyn. Camodd y dirprwy o’r cynffon i’r blaen gan deimlo’n ddiolchgar o gwmni Arwyn oedd yn ei filltir sgwâr ac yn ‘nabod yr ardal fel cefn ei law. Aeth Arwyn â ni at y garreg sy’n nodi’r fan y cyfansoddodd Dafydd y Garreg Wen gainc Codiad yr Ehedydd. Tra’n sefyll yno yn edmygu’r olygfa, ar ei ffôn cafodd John P hyd i alaw drist y credir i Dafydd ei chanu ar ei wely angau a thawodd y sgwrs am ennyd i wrando arni. Ar ein hunion a ni wedyn am Borth y Gest ac i’r caffi bach cyfleus am banad a chacan. Cyn i ni orffen ein coffi cyrhaeddodd yr arweinydd a’i wynt a’i ffyn yn ei ddwrn!
Diolch am eu cwmni i Nia Wyn, Meirion, Mags a Wini o Fôn, John P, John W, Gwenan R, Gwynfor J, Arwyn, Gwen E , Rhiannon J, Iona Tanlan, John Arthur, Nia Wyn Saron, Gwyn H, Alun y Gelli, Eirwen, Haf M a Linda ac i Gwyn Chwilog am arwain. Diolch arbennig i Mags am ofalu bod y diffib yn ein cyrraedd ac am ei ddychwelyd i Fôn ar gyfer taith dydd Sadwrn.
Adroddiad gan Anet
Lluniau gan Gwyn ar FLICKR