HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Carnedd Gwenllian, Cwm Caseg, Ffos Brynhafod y Wern 17 Awst


Dyma’r criw hwyliog a gyfarfu ym maes parcio Pantdreiniog: Aled, Dei a Cheryl,Tegwen, Hefin a Morfudd, Sioned, Eirlys, John Arthur, Eifion, Dylan, Gaenor, Rhiannon ac Alice.

Ychydig dros hanner can mlynedd yn ôl fe fyddai pawb yn sefyll ar ben tomen sbwriel Chwarel Pantdreiniog, a oedd yn gysgod uwchlaw prif stryd y pentref.Defnyddiwyd y domen i lenwi twll enfawr y chwarel.

Cychwyn y daith heibio olion twll y chwarel a gwneud ein ffordd i Tan y Foel a chyrraedd y ffridd. Yn agos i’r llwybr sy’n arwain i Wauncwysmai, mae maen enfawr ac ar ei gopa mae twll bychan crwn ac yn torri ar ei draws mae rhigolau main sydd wedi eu torri yn gyson ar draws y cylch. Maent wedi eu ffurfio drwy broses o rwbio cyson. Hogi pennau saethau? Carreg Saethau! Ymlaen heibio olion Cwt Mawn Moel Faban. Saif y cwt mawn ym Mwlch Molchi ar ffin ardal o brysurdeb mawr yn ystod cyfnod cynhanes.

Cafwyd seibiant ar y llwybr yn arwain am Gyrn Wigau. Roedd yr arweinydd yn barod i dderbyn clod am fynd i drafferth i adeiladu “caffi” bach,ond doedd neb yn ei goelio!

Bera Bach (sydd 13 m yn uwch na Bera Mawr) oedd nesaf ac yna Yr Aryg a chopa carregog Carnedd Gwenllian. Cododd y gwynt ond cafwyd llecyn cysgodol o dan y creigiau.

Wrth ddisgyn i lawr Cwm Afon Wen roedd Cwm Caseg yn agor o'n blaenau ac roedd yr olygfa’n drawiadol. Yn bresennol roedd nifer fawr o ferlod gwyllt y Carneddau. Mae unig ferlod gwyllt Prydain yn fyw ac yn iach ar y Carneddau ers cyfnod y Celtiaid.

Tarddle’r cyflenwad dŵr i Chwarel Bryn Hafod y Wern oedd  ffos o Afon Gaseg i Afon Wen ac yna ymlaen am 4 a hanner milltir. Roedd pawb yn rhyfeddu at y gwaith anhygoel o galed o dyllu’r ffos mewn lleoliad mor anghysbell. Roedd yn bosib cadw i’r ffos ar wahân i’r mannau lle roedd y brwyn wedi tyfu neu’r tir wedi llithro gan lenwi rhannau. Dilynwyd y ffos ar hyd lethrau’r Aryg i gyrraedd Allt y Mawn yng Ngwaun Cwys Mai. Rhoddwyd y ffos mewn pibellau clai yno rhag ei bod yn dwyn dyfroedd Afon Ffrydlas a glustnodwyd ar gyfer Chwarel Pantdreiniog. Ailymunwyd â’r ffos o dan Y Gyrn cyn ei dilyn i lawr i Lyn Coch.

Y ffos hon yw  un o ryfeddodau cudd diwydiant y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn Nyffryn Ogwen.

Cefais fwynhad mawr yn rhannu’r profiad o gydgerdded y daith gyda criw hwyliog iawn. Diolch i Morfudd am gydarwain ac i Sioned am dynnu y lluniau.

Adroddiad gan Cemlyn

Lluniau gan Sioned ar FLICKR