HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arthog i Ddolgellau dros Gadair Idris 21 Medi


Gyda’r daith wedi cael ei chanslo unwaith yn barod oherwydd rhagolygon tywydd am fellt a tharanau a thywydd garw, y peth olaf roeddwn eisiau ei weld oedd rhybudd am stormydd mellt a tharanau cyn y daith hon eto, ond dyna a gafwyd trwy gael rhybudd melyn am stormydd taranllyd dros Gymru gyfan a rhannau o Loegr! Wedi darllen am y rhybuddion mewn mwy o fanylder, gwelais eu bod yn fwy tebygol o ddigwydd yn Nwyrain Cymru ac mewn rhannau o Loegr, felly ymlaen â’r daith!

Cyfarfu 14 ohonom yn Sgwâr Eldon, Dolgellau i ddal y bws 9:03 i Arthog. Cychwynwyd cerdded trwy droi gyferbyn ag eglwys Arthog, gan godi’n serth ar lwybr sydd yn dilyn afon a rhaeadr Arthog, a dal digon o ddŵr ynddi i fod yn drawiadol er inni gael wythnos gymharol sych. Wedi inni gyrraedd y gwastadedd ar ôl dod allan o’r coed, roeddem yn gweld yr hen bont fach garreg ddel sy’n croesi’r afon am Lys Bradwen. Mae’r llys hynafol hwn wedi bodoli ers cyn oes y Rhufeiniaid.  Gan gadw at yr un ochr i’r afon,  cerddasom tua Phant-y-Llan ac yna  am y ffordd cyngor sy’n ymuno â’r Ffordd Ddu. Dyma ble y daeth rhesiad hirfaeth o fotobeics i’n cyfarfod a throi i fyny am y Ffordd Ddu. Trist iawn yw gweld y defnydd niweidiol hwn o’n hen ffyrdd hynafol.

Ymlaen â ni am  Hafoty-fach,  murddun oedd yn gartref i John Williams, neu Ioan Rhagfyr, (1740 – 1821) a oedd yn fardd, cerddor a chyfansoddwr. Oddi yma rhaid oedd croesi’r ffridd gyferbyn am y mynydd. Wedi dringo dros y gamfa, roedd y dringo’n serth ar lwybr oedd ar y dechrau yn eithaf garw gan fynd trwy lwyni grug, am y bwlch ar y grib fyddai’n arwain i gopa Tyrrau Mawr. Cyn cyrraedd y bwlch, cawsom seibiant mewn man eithaf cysgodol i gael paned cyn y ddringfa nesaf yn yr heulwen i gopa Tyrrau Mawr. Er nad oedd yn glir iawn, roedd yr olygfa o’r copa o aber y Fawddach a Llynnau Cregennan yn fendigedig. Wedyn i lawr â ni heibio Garnedd Lwyd i Fwlch Gwredydd. Dringo unwaith eto ymlaen i Ben y Gadair, gyda chwech o’r aelodau yn troi i ffwrdd i fynd i gopa’r Cyfrwy ac yn ôl, tra yr aeth yr wyth arall yn syth i Ben y Gadair. Erbyn hyn, er fod y copaon yn dal yn y golwg , roedd y cymylau’n is a’r haul wedi diflannu. Cafodd pawb ei ginio ar gopa Pen y Gadair. Fel arfer gwylanod yw’r broblem wrth fwyta y tu allan, ond dim yma, gan fod yna ddafad braidd yn rhy ddof yno! Roedd yn amlwg wedi arfer cael ei bwydo gan bobl ac roedd yn ddigon hy i fynd i focs bwyd rhywun! Hithau fel llawer un arall yn gweld fod bwyd parod yn gwneud bywyd yn llawer haws!

Wedi cael llun o bawb gyda’i gilydd, ymlaen â ni am Fynydd Moel, gan ddisgyn wedyn i’r gwastadedd braidd yn wlyb rhyngddo a Gau Graig. Gadawodd pawb y llwybr er mwyn gweld y golygfeydd gwych o bob cyfeiriad o gopa Gau Graig, gyda Bwlch Llyn Bach yn serth i lawr oddi tanom i un cyfeiriad . Wedi ymuno yn ôl ar y llwybr, dechreuwyd disgyn i lawr am Fwlch Coch. Ychydig wedi inni fynd dros y gamfa i’r ffridd o’r mynydd daeth y glaw ac fe glywyd un daran unig rhywle yn y pellter! Wedi dod lawr o‘r ffriddoedd a chyrraedd Bwlch Coch, dilynwyd y ffordd cyngor i lawr at Bandy Gader ble y trowyd i ffwrdd i groesi pont fechan ac yna thorri ar draws at ffordd arall cyn troi oddi ar honno hefyd i fynd i lawr llwybr drwy’r goedwigaeth at Pandy.  Croesi pont fechan arall dros yr afon Arran eto, cyn mynd ar lwybr sy’n dilyn yr afon am dref hynafol Dolgellau. Fel roeddem yn dod i mewn i’r dref, daeth y tad a’r ferch, Iolyn a Dwynwen i’n cyfarfod ac wedyn ymuno hefo ni am ddiod yn Y Torrent.

Diolch i Rhiannon, Meinir, Morfudd, Siân, Huw, Gareth Hughes, John Arthur, Eryl, Erwyn, Alison, Eurig, Dei a Cheryl am eu cwmni difyr ar y daith. Roedd Alison ac Eurig wedi gwneud ymdrech arbennig i ddod gan deithio yn ôl ac ymlaen o’r de mewn diwrnod. Diolch i Erwyn am gario’r diffib drwy gydol y daith.

Adroddiad gan Eirlys Wyn Jones

Lluniau gan Eirlys ag Erwyn ar FLICKR