HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Llyn Uchaf Cymru 22 Mehefin


Roedd hi wedi gaddo tywydd ffafriol ond mi oedd y cymylau tywyll dros y Carneddau wrth i ni ymgynnull yn awgrymu ein bod ni i fewn am ddiwrnod arall o wisgo cotiau glaw. Roedd hi wedi bwrw yn drwm dros nos a ychwanegodd hynny at yr anawsterau o ran dod o hyd i lwybr sych o Fferm Gwaun Gwiael ar draws y corsdir tuag at y ddringfa i fyny Foel Ganol. Roedd y cymylau yn araf iawn yn clirio ac wrth i ni godi uchder roedd yn anorfod y byddem yn diflannu i fewn i’r niwl y cyn cyrraedd copa’r Elen. Er bod y tymheredd yn gynnes ym Methesda, roedd angen haenau ychwanegol wrth i ni wneud ein ffordd i fyny i Garnedd Llywelyn lle ddechreuodd y niwl glirio o’r diwedd. Ymlaen â ni i Garnedd Trystan sydd i'r Gogledd Ddwyrain o Garnedd Llywelyn.

Dim ond ni o Fethesda sy'n gwybod “hen” enw’r copa bach hwn oherwydd ein gwybodaeth leol sydd bellach fawr o bwys i'r Ordnans Survey yn anffodus. Oddi yma disgynnom yn serth i Ffynnon Llyffant, sef llyn uchaf Cymru. Yma mae beth sy’n weddill o awyren Canberra B.2 ar ôl damwain ym mis Rhagfyr 1957. Roedd y criw yn cymryd rhan mewn profion ar y cyd ag uned radar y Weinyddiaeth Gyflenwi ar gopa Drum gerllaw. Roedd yr awyren wedi bod yn hedfan mewn cwmwl isel anghyson ar drac dwyreiniol pan darodd Carnedd Llewelyn rhyw 300 troedfedd o dan y copa ar y grib sy’n cysylltu’r mynydd â Foel Grach. Cwympodd rhan ganol, yr adenydd a'r ffiwslawdd cefn ger y llyn bychan hwn. Mae un o'r olwynion i'w weld o hyd ar ochr bellaf lan y llyn. Wrth i’r tywydd wella roedd y lleoliad hwn yn le braf am ginio. Ymlaen i'r gogledd-ddwyrain o'r llyn a ni wedyn i godi'r llwybr sy'n arwain o Gwm Eigiau i gopa Foel Grach. Erbyn hynny, roedd y cymylau wedi gwasgaru’n llwyr gan adael awyr las glir a golygfeydd am filltiroedd o’n cwmpas. Gan ddisgyn yn serth i lawr Clogwyn yr Heliwr fe gafom y golygfeydd gorau oll o’r Elen a Ffynnon Caseg ac roedd sawl stop am luniau cyn i ni gyrraedd gwaelod y dyffryn am y daith hir yn ôl i Fethesda.

Manteisiodd rhai ohonom ar y cyfle i flasu rhywfaint o gwrw gwych oedd ar gael yn Nhŷ Mo ar ddiwedd diwrnod hynod ddiddorol a heriol yn gorfforol. Braf cael bod yng nghwmni Sioned, Erwyn, Dafydd, Gethin, Adrian, Wil, Sian, Alys, Iolo, Dylan, Nia, Carys, Anwen a Lynne.

Adroddiad gan Stephen Williams

Lluniau gan Sioned a Steve ar FLICKR