HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O Bont Pen-y-benglog i Gapel Curig 24 Chwefror


Roedd yr haul yn tywynnu a’r Glyderau dan garthen o eira gwyn; diwrnod perffaith i fynydda.

Dal y T10 o Gapel Curig i Bont Pen-y-benglog a cherdded drwy Gwm Idwal, i fyny heibio’r Twll Du cyn cael paned sydyn wrth lannau Llyn y Cŵn. Cadw i’r chwith wedyn yn hytrach nag esgyn y sgri di-drugaredd a dringo’r holl ffordd i gopa Glyder Fawr bron heb weld neb arall.

Ymlaen wedyn ar hyd Bwlch y ddwy Glyder – a oedd dan haen go lew o eira – ac ymlaen at gopa Glyder Fach lle gafon ni ginio. I lawr heibio Llyn Caseg Fraith ac i gopa’r Foel Goch i fwynhau rhagor o olygfeydd anhygoel. I lawr i’r Bwlch, hebio’r llyn bychan (tybed a oes enw iddo?) a syth i gopa Gallt yr Ogof – lle arall i oedi a gwerthfawrogi’r tirlun.

Gwlyb iawn dan draed oedd gweddill y daith ar draws Bwlch Goleuni a thros Gefn y Capel cyn inni orffen y daith yng Nghapel Curig.

Diolch yn fawr i’r pedwar mynyddwr arall am eu cwmni difyr: Huw (Pwllheli); Gwyn (Bangor); Erwyn (Stiniog) ac Eurig (yr holl fordd o Sir Gaerfyrddin!).

Adroddiad gan Richard

Lluniau gan Richard ag Erwyn ar FLICKR