Mynydd Moel, Cader Idris a Chraig Amarch 26 Hydref
Lwcus efo’r tywydd, a lwcus efo’r tymor. Ar ôl cyfarfod ym maes parcio Minffordd, hyfryd iawn oedd cychwyn y daith hon wrth ddringo trwy’r goedwig dderw hydrefol, hardd uwchben Dol-y-cae. Yn wir, roedd y coed, y rhedyn a’r mawnogydd oll yn eu lliwiau tlws tymhorol gydol y daith.
Diwrnod gwisgo a thynnu! Tarai’r haul yn boeth wrth ddod allan o gysgod y coed. Croeswyd Nant Cadair cyn dringo’n gyson i fyny am Fynydd Moel, a’r gwynt yn feinach, er fod yr haul yn dal i dywynnu. Cafwyd hoe i edrych ar yr olygfa wych o Lyn Cau o’r llethrau uwch – yr hon a baentiwyd gan Richard Wilson yn ei lun adnabyddus. Stop arall ar gopa Mynydd Moel i ryfeddu at y golygfeydd i bob cyfeiriad, wedyn ymlaen am gopa’r Gader. Cafwyd cinio yma, efo rhai i mewn yn y cwt, a rhai yn cysgodi tu ôl iddo rhag y gwynt oer oedd wedi cyrraedd wrth ddringo’n uwch.
Cymryd y llwybr am Graig Cau wedyn, ac ar ôl cyrraedd y copa, troi am y gorllewin ar hyd Craig Cwm Amarch cyn disgyn i lawr braich orllewinol y cwm bach cudd hwn, ar laswellt braf, am fferm Rhiwogof. Panad tra oedd gennym olygfa o Lyn Mwyngil, efo Keith yn rhannu rhai o’i ddanteithion ffrwyth rhyfeddol – rhaid i ti ddod â rhai ar bob taith rwan, Keith!
Dilynwyd Llwybr Mary Jones o Riwogof, gan ddisgyn heibio fferm Pentre i’r lôn fach ar ochr ogleddol Llyn Mwyngil, sy’n arwain i’r ffordd fawr ac i’r maes parcio, heibio canolfan y delyn deires newydd sbon yn Noleinion,
Aeth ambell un i wlychu pîg yng Ngwesty Minffordd cyn cychwyn am adref.
Diolch i Alun, Alice, Dylan, Peter, Eifion, John Arthur, Eirlys, Iolo, Erwyn, Huw, Gwyn (Deiniolen), Keith, Gwen (Jenkins), Dilys ac Aneurin am ymuno ar y daith ar ddau o fy hoff fynyddoedd ar ddiwrnod mor odidog.
Adroddiad gan Elen Huws.
Lluniau gan Elen ac Erwyn ar FLICKR