Trichrug a Carn Goch 27 Ionawr
Er i’r daith yma gael ei threfnu ar fyr rybudd, daeth naw ohonom ynghyd i’r man cyfarfod, sef maes parcio Carn Goch, ger pentref Bethlehem, Llangadog, ar ymyl orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd yn fore digon dymunol ym mis Ionawr ar ôl y stormydd diweddar, a dyma ni’n dechrau yn hwyliog ar ein ffordd.
O’r maes parcio, gellir gweld Carreg Goffa Gwynfor, ac fe ddilynon y llwybr clir heibio’r gofeb, gan esgyn yn raddol tuag at Garn Goch.
Mae yna ddwy fryngaer ar y safle, sef y Gaer Fach, sydd yn eistedd islaw ei chymydog mwy o faint a mwy trawiadol, sef y Gaer Fawr. Fe ddilynon y llwybr heibio’r Gaer Fach, sydd yn amgylchynu ardal o ryw 1.5 hectar, ac ymlaen tuag at y Gaer Fawr. Mae hon yn un o’r bryngaerau Oes Haearn mwyaf yng Nghymru, er credir i’r safle gael ei ddatblygu fel safle amddiffynnol ar ddechrau’r Oes Efydd. Wrth gerdded ar draws y gaer, gyda’i hamddiffynfeydd cerrig enfawr yn amgylchynu ardal o ryw 11.2 hectar, tua 700 troedfedd uwchben lefel y môr, gellid gwerthfawrogi sefyllfa amddiffynnol strategol y gaer, gyda golygfeydd trawiadol o’r ardal o amgylch, yn enwedig dros ddyffryn Tywi islaw.
Fe ddilynon y llwybr allan drwy un o’r mynedfeydd, i lawr tuag at ffordd gul. Ar ôl dilyn hon am ryw hanner milltir tua’r gogledd ddwyrain, fe ddilynon lwybr lawr drwy Goed Tal y Lan, ac ymlaen ar hyd lwybrau troed a ffyrdd gwledig tuag at gyfeiriad Dyffryn Ceidrych ac at brif ffordd yr A4069. Bu rhaid dilyn hon am ryw chwarter milltir cyn cyrraedd Coed Pen Arthur.
Bwrw mlaen wedyn ar ôl saib cyflym, gan ddilyn llwybrau a ffyrdd coedwigaeth drwy Goed Pen Arthur, sy’n cynnwys cymysgedd deniadol o goed conwydd a choed llydanddail brodorol. Yn hytrach na dilyn y llwybr a awgrymwyd ar fwrdd gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, fe ddilynon lwybrau tuag at gyfeiriad y de, ac yna troi tua’r gorllewin, gan gadw at ochrau deheuol y goedlan. Wrth esgyn yn raddol drwy’r goedlan cafwyd cipolwg hyfryd o Fannau Sir Gâr. Ymlaen wedyn, heibio hen adfail Ysgubor Lan lle’r oedd y llwybrau drwy’r goedlan yn eitha gwlyb a mwdlyd mewn mannau ar ôl y glaw diweddar, ac hefyd ambell goeden wedi cwympo yn cyflwyno ambell i sialens ar y ffordd.
Fe arhosom am ginio mewn llanerch gyda golygfa draw at Bannau Sir Gâr. Ar ôl ryw ddeg munud arall o gerdded drwy’r coed, lan Banc Pen Arthur, dyma ni yn cyrraedd Banc Careg-Foel-Gam (360 m), gyda golygfeydd ysblennydd unwaith eto tua’r gogledd a’r gorllewin. Wrth edrych lawr dros y Gaer Fawr, â’i lethrau cochlyd, gellid gwerthfawrogi’r ddamcaniaeth bod y coch yn Carn Goch yn deillio o liw’r rhedyn o’i gwmpas yn yr hydref a’r gaeaf.
Er mwyn cyrraedd copa Trichrug rhaid oedd dilyn llwybr tua’r de orllewin am dipyn, gan gadw tua’r un uchder, nes cyrraedd wal gerrig sylweddol. Dros y gamfa, ac wedyn un ddringfa fer, weddol serth i’r copa (415 m). Ar ôl cyfle i edmygu’r golygfeydd panoramig, ymlaen gan ddilyn wal gerrig arall cyn disgyn i Bwlch y Gors.
Dilyn Ffordd y Bannau wedyn drwy ran o goed Carreglwyd, cyn troi i gyfeiriad gogleddol a dilyn llwybr wrth ochr nant fach (y llwybr a’r nant yn un mewn mannau!), a arweiniai nôl lawr at y ffordd, ac i’r maes parcio.
Cylchdaith o ryw 9.5 milltir a 1,900 troedfedd o esgyn.
Diolch am gwmni Elin, Emyr, Rowena, Dewi, Meirion, Eileen, Simeon a Bruce.
Adroddiad gan Eurig James.
Lluniau gan Dewi a Bruce ar FLICKR