HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Cylch Ffynnon Lloer, Y Carneddau 27 Ionawr


O amodau Gaeafol wythnos yn gynt, i dywydd annaturiol o gynnes mewn 7 diwrnod. Roeddwn wedi disgwyl rhywfaint o farrug ar y copaon o leiaf ond mae'r gwynt a'r glaw wedi cael y gorau o fisoedd oeraf y flwyddyn eleni.

Cychwynodd 15 ohonom o Glan Dena ar fore tamp a llwyd. Un yn llai yn anffodus gyda neges gan Andras oedd wedi torri i lawr ar y ffordd. Buan oedd angen stop i dynnu cotiau fel iddi sychu a chnesu. Roeddwn yn y niwl unwaith oedd pawb wedi sgrialu o'r llyn am grib orllewinol Pen yr Ole Wen. Fe gafodd Eryl lun da rhyw ferch ddiarth yn dringo yn ein canol ni, gan feddwl ei fod o wedi tynnu llun o Anna!

Roedd y gwynt yn oer ofnadwy ar gopa Pen yr Ole Wen (-9 yn ol y "Met Office") a gyda nunlle am gysgod roedd pawb ddigon hapus symud ar draws y gefnen heibio Carnedd Fach i Garnedd Dafydd. 3 cwt ar y copa, un wal wedi cwympo ac un yn llawn yn barod felly nunlle am ginio i grwp mor fawr. Unwaith eto ymlaen aeth pawb hyd Cefn Ysgolion Duon nes i ni gael rhywfaint o gysgod uwchben Creigiau Malwod am ginio byr iawn.

Unwaith i ni ostwng rhyw 100 medr fe ddychwelodd y golygeydd ac wrth ddisgyn i lawr am Craig Llugwy fe gododd y cymylau oddiar y copaon. Efallai dyliwn ni fod wedi cychwyn rhyw awr yn hwyrach!  Cyfle allan o'r gwynt am sgwrs gyda pawb tra oeddwn yn dilyn y Llwybr Llechi yn ôl i Glan Dena. Roeddwn yn ol ddipyn wedi 3 a mi oedd digon o geir i gludo pawb oedd wedi dal bws yn ôl i Fethesda. Rhai yn gorffen gyda peint yn nhafarn y Sior gan gynnwys Sioned Llew (ddim ar y daith ond yn awyddus i gymdeithasu yn dilyn ei chodwm ar Moel Siabod). Braf ei chael hi'n ôl! Hyfforddiant am "Operation Buachaille Etive Beag" dwi ar ddeall. Mwy am hyny yn yr Eisteddfod.
 
Ar y daith oedd Matthew, Carys, Sioned, Dylan, Erwyn, Sandra, Sonia, Anna, Dafydd Legal, Dafydd Thomas, Keith, ac Eryl. Yn ymuno am y tro cyntaf hefyd ar daith flasu oedd Gwenlli a Gwyn. Braf cael aelodau newydd (y ddau am ymuno a'r clwb a wedi mwynhau'r daith). Byddwn yn edrych ymlaen eu gweld nhw eto. 

Adroddiad gan Steven Williams.

Lluniau gan Steve ar FLICKR