HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Rhinog Fach, y Llethr a’r Diffwys 27 Ebrill


Wrth yr ysgol ym mhentref Llanbedr oedd man cychwyn ar gyfer y daith, efo’r bwriad o adael rhai ceir yno, a rhannu cyn lleied o geir a phosibl i fynd i fyny am Gwm Nantcol. Pum car aeth ymlaen i gludo’r un ar bymtheg ohonom o Lanbedr gan godi un arall ar y ffordd ger Maes Gwersylla Nantcol. Wedi parcio ger fferm Maes y Garnedd ym mhen pella’r cwm, ble ganed John Jones Maes y Garnedd a ddaeth yn un o’r comisiynwyr a lofnododd warant i ddienyddio Siarl y 1af, dyma ddau ar bymtheg ohonom yn cychwyn cerdded.

Roedd yr haul yn gwenu wrth i ni anelu am Fwlch Drws Ardudwy, er bod y gwynt yn fain, a phawb yn gobeithio y parha’n sych am weddill y diwrnod.

O’r bwlch, dyma ddringo i fyny heibio Llyn Cwmhosan ac i fyny’n serth i gopa’r Rhinog Fach, ble cafwyd tamaid i fwyta a phanad tra’n gwerthfawrogi’r golygfeydd am y môr, Llyn ac Enlli yn amlwg ar y gorwel. Dilyn y wal wedyn i lawr am y bwlch uwchben Llyn Hywel cyn dringo’n serth unwaith eto i gopa’r Llethr. Braf oedd cyfarfod Eirlys a Iolyn yma, oedd wedi cerdded o’u cartref i ymuno â ni, ac fe gawsom eu cwmni wrth ddilyn Crib y Rhiw, dros gopa Diffwys cyn belled a Phont Sgethin.

Cafwyd cinio uwchben Llyn Dulyn, ble roedd yn gynnes allan o’r gwynt Dwyreiniol, cyn y ddringfa olaf i gopa Diffwys. Paned arall wrth eistedd ar Bont Sgethin cyn ffarwelio ag Eirlys a Iolyn a dilyn ffordd y Bwrdd Dŵr am sbel cyn troi a dilyn y llwybyr yn ôl i Gwm Nantcol ac ar hyd y ffordd yn ôl i Faes y Garnedd a’r ceir.

Bu llawer o sgwrsio a chwerthin yn ystod y daith, efo’r criw mewn hwyliau da, braf oedd cael croesawu tri o’r de atom efo Ali a Ceri, i’ll dau wedi teithio o Sir Benfro a Dafydd o Gaerdydd. Ychydig iawn o gerddwyr eraill welsom, ond fe ddaethom ar draws criw oedd, efo’u matiau cysgu yn rholion ar du allan ei sachau, yn edrych fel tasent yn rhan o gynllun Gwobr Dug Caeredin, neu debyg. Heblaw am ambell smotyn o law, fe arhosodd yn sych drwy’r dydd ac ar y ffordd adra, aeth rhai ohonom i wlychu’n pigau yn nhafarn Y Fic, ble ymddengys mai dyna’r lle i fod, efo’r dafarn yn llawn ac yn brysur!

Yn cerdded efo fi oedd Anna, Anwen, Ali, Ceri, Dylan, Dafydd (Caerdydd), Dafydd (Legal), Eirlys, Elen, Eifion, Erwyn J, Gareth, Iolo, Iolyn, John Arthur, Sandra, Sioned a Sion, diolch i chi gyd am eich cwmni.

Adroddiad gan Trystan Evans.

Lluniau gan nifer o'r criw ar FLICKR