HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


Taith y Preselau 27 Ebrill


Roedd y daith hon yn debyg iawn i daith rhif 39 yn 'Copaon Cymru'.

Naw aelod ddaeth at ei gilydd yn Rhos Fach (SN 135304, nid y pentref o'r un enw). Y naw oedd Eurig, Alison, Elin, Eileen, Clive, Rhiannon, Emyr, Helen a Digby.

Cerdded i'r gorllewin ar yr heol am ychydig cyn troi i'r gogledd. Wrth gyrraedd y bwlch (SN122323), esboniwyd ein bod yn mynd i'r gorllewin a dilyn llwybrau i ben Foel Cwmcerwyn, sef copa uchaf y Preselau, 536 m.  Mae'n debyg mai math o faril mawr neu rywbeth sy'n edrych yn debyg iddo yw ystyr 'cerwyn'. Cafwyd seibiant ar Foel Feddau ar y ffordd. Wedyn, dychwelyd yn ôl i'r bwlch a mynd yn syth ymlaen.

Ar ôl tua hanner cilomedr, troiodd rhai o'r cerddwyr i'r de a mynd heibio i Garn Siân i gyrraedd y safle ble roedd awyren a oedd ar daith hyfforddi yn 1944, wedi disgyn ar noson niwlog a mynd i mewn i ochr y mynydd. Mae cofeb yno'n enwi 6 o'r criw o 9 dyn ifanc a gollodd eu bywydau yn y ddamwain. Troi'n ôl wedyn a chwrdd â gweddill y cerddwyr ar Garn Bica i gael cinio.

Cario ymlaen i'r gorllewin i gyfeiriad Carn Menyn, sef yr enw ar y map, er mai Carn Meini yw'r enw lleol arni. Troi i'r de a cherdded o dan Garn Meini a dilyn y llwybr yn ôl i Fynachlog-ddu.

Yng nghanol y pentref, troi i'r chwith i Gapel Bethel ac oedi wrth y fedyddfa awyr agored. Ym mynwent y capel, gwelsom fedd Thomas Rees, sef Twm Carnabwth, a'r pennill enwog yn nodi amgylchiadau ei farwolaeth (Gweler y lluniau). Credir mai e oedd yn arwain 'y fyddin answyddogol' a chwalodd dollborth Efail-wen ar ddechrau Terfysgoedd Beca.

Gwelwyd hefyd garreg fedd yr amryddawn W.R. Evans (1910-91) y cofir amdano'n bennaf fel arweinydd Côr Bois y Frenni a ffurfiwyd yn 1940. Mae'r côr yn dal i berfformio ac yn canu dim ond caneuon W.R. o hyd.

Wrth gerdded yn ôl i'r maes parcio, bu rhai ohonom yn ddigon ffodus i glywed cân y gwcw; diweddglo hyfryd i daith bleserus. Yn wahanol i'r rhagolygon, roedd y tywydd yn braf er yn wyntog ar adegau. Diolch i'r cerddwyr am eu cwmni.

Adroddiad gan Digby a Helen.

Lluniau gan nifer o'r criw ar FLICKR