Rhai o lwybrau Uwchartro, Ardudwy 28 Chwefror
Doedd y rhagolygon ddim yn dda... a dyna a gafwyd, glaw a mwy o law, yn anffodus. Serch hynny, roedd yna chwech aelod o griw dydd Mercher ar y trên o’r gogledd – Anet o Bwllheli, Gwyn Chwilog o Gricieth, John Arthur a John Parry o Penrhyn, a Gwyn Llanrwst a finna o Harlech. Ddeng munud yn ddiweddarach, roedden ni yn arosfan Talwrn Bach, Llanbedr, a dyma fan cychwyn ein taith. Anghofiwyd am lwybr gwreiddiol y daith, a dilynwyd y clawdd llanw o Lanbedr, ar lan ddeheuol yr afon Artro, i gei Pensarn, lle’r oedd llu o blant yn paratoi i gymryd rhan mewn chwaraeon dŵr efo’r CMC – na, dim Clwb Mynydda Cymru ond y Christian Mountain Centre, Bryn Moel, Pensarn.
Ymlaen wedyn ar hyd y clawdd llanw i Landanwg a chael lloches yn yr Eglwys hynafol sy’n dyddio o’r 5ed ganrif – paned gynta’r dydd. Darllenwyd y ddau englyn ar fedd Siôn Phylip yn y fynwent. Roedd wedi boddi ar ei ffordd yn ôl o daith clera ym Mhen Llŷn.
I fyny llwybr Llwyn wedyn i bentref Llanfair rhwng dau glawdd cerrig cadarn, enghraifft arbennig o ‘hwylfa’ Ardudwy, a difyr oedd nodi’r cen gwyn llachar ar gerrig ochr ddeheuol y clawdd, sy’n wynebu’r gogledd orllewin, ond y diffyg cen yn y wal gyferbyn oedd yn wynebu’r tywydd o’r de orllewin.
Glaw wedyn yn Llanfair, felly ymochel yn Eglwys y Santes Fair a chyfle am baned arall a thamaid o fwyd, a chael gweld man claddu Ellis Wynne, y Bardd Cwsg o’r Lasynys Fawr, o dan yr allor, y garreg goffa iddo yn y llawr, a’r ffenestr liw arbennig er cof amdano. Bu’n rheithor yn yr eglwys hon a sawl un arall yn y plwyf yn yr 1700au cynnar.
Gan nad oedd y glaw yn cilio, dilynwyd y ffordd uchaf i Harlech, a chafwyd ymweliad â chaffi’r Castell. Er bod stryd fawr Harlech yn ddistaw, roedd y caffi’n llawn dop. Mae’n amlwg bod pawb â’r un syniad heddiw o chwilio am loches a phaned a chacen. Daliodd y criw drên 2.30 yn ôl am y gogledd.
Diolch i Anét, John Arthur, John Parry, Gwyn Chwilog, a Gwyn Llanrwst am eu cwmni a’u sgwrsio difyr.
Adroddiad gan Haf Meredydd
Lluniau gan Haf ac Anet ar FLICKR