HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243


O Gapel Curig i Lanberis 29 Mehefin


Daeth wyth aelod dewr ynghyd wrth y safle bws Llanberis yn y glaw ysgafn i ddal y 09:00 i Gapel Curig. Doedd y tywydd ddim yn edrych yn dda iawn gyda glaw ysgafn rhan fwyaf o'r dydd. Aethom ar ein ffordd o faes parcio Joe Brown  ac ennill uchder yn gyflym i gyrraedd ein copa cyntaf Cefn y Capel. Ymlaen wedyn at gopa Gallt yr Ogof i chwilio am cysgod i gael tamad i fwyta.

Gwaethygodd gwelededd wrth i ni esgyn Y Foel Goch ac anelu am Lyn Gaseg Fraith. Yn sydyn  allan o'r niwl gwelsom redwr a’r goll a oedd wedi ei wahanu oddi wrth ei dîm o bedwar rhedwr a oedd yn cystadlu yn ras flynyddol yr Heddlu. Roedd o’n anelu at Gapel Curig ond doedd hyn yn golygu dim iddo oherwydd dyma’r tro cyntaf iddo yn Eryri. Ar ôl galwad ffôn gyflym i'w arweinydd tîm dywedodd wrthym mai ei checkpoint nesaf oedd copa Glyder Fach. Fe wnaethon ni ei helpu i ddod o hyd i'r llwybr i'r copa ac i ffwrdd ag o i mewn i'r niwl. Ar ôl cyrraedd y copa aethom am lun grŵp ar Y Gwyliwr lle gwnaethom gwrdd â dau o farsialiaid y ras wedi'u gwysgo mewn bagiau clud a lliwgar a roeddent yn edrych fel dwy fanana. Diolch byth, cafodd y rhedwr coll hyd i’w dîm a oedd yn dechrau dioddef yn yr amodau gwlyb. Gobeithio iddo ddysgu ei wers a bydd yn aros gyda'i grŵp yn y dyfodol.

Cawsom ginio ym Mwlch y ddwy Glyder a thrafod o ystyried yr amodau gwlyb i ddisgyn o Glyder Fawr i Ben-y-Pass ond penderfnom gario ‘mlaen gan mai Clwb Mynydda Cymru ydan ni. Ar y disgyniad o Glyder Fawr i lawr y sgri llithrig fe wellodd y tywydd y glaw a’r niwl yn chlirio'r fel y gallem o leiaf weld ein ffordd i fyny i gopa’r Garn, yr unig olygfa a welsom drwy'r dydd.

Ar gopa'r Garn roedd dau farsial pryderus oherwydd roedd rhedwyr â rhif 4 ar eu cefnau wedi methu â chyrraedd y checkpoint ac roeddent 2 awr yn hwyr a pharti yn chwilio amdanynt. Dywedom eu bod wedi ein pasio ni amser cinio ond heb eu gweld ers hynny. Wrth i ni barhau â'n taith tuag at Elidir Fawr daethom ar draws aelodau o dîm Achub Ogwen a roddodd wybod i ni fod y tîm o redwyr a oedd ar goll wedi cael eu darganfod yn ddiogel.

Ar y ffordd i gopa Elidir Fawr dychwelodd y glaw eto a chawson fyrbryd cyflym ar y copa lle cyfarfuom â grŵp o 3 yn gwneud y 15 copa dros dau ddiwrnod. Roedd dau ohonyn nhw heb dillad glaw ac yn wlyb domen. Gofynodd un i ni pa mor hir fyddai hi'n ei gymryd i gyrraedd Tryfan gan eu bod yn bwriadu gwersylla ar y copa y noson honno!

Ar ôl pasio copa Elidir Fach fe wnaethom ein ffordd i lawr lon y chwarel drwy'r niwl heibio'r sied dorri a chael golwg sydyn ar farics Sir Fôn ar ein ffordd yn ôl i Lanberis.

Llongyfarchiadau i  Dwynwen, Elen, Richard, Ceri, Trystan , Gethin a Sioned Llew am gwblhau'r 13.5 milltir yn yr amodau gwlyb a diflas pan fyddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol wedi rhoi'r gorau iddi.
Diolch i chi gyd am eich cwmni.

Adroddiad gan Dylan Evans

Lluniau gan Sioned ar FLICKR