Pedol Croesor o chwith 1 Chwefror
Fe wnaeth 10 aelod brwdfrydig ymuno ym maes parcio Croesor am 8 sef Gethin, Andras, Sandra, Erwyn, Keith, Nia, Nia, Elen Eurig a Rhiannon. Cychwynodd y daith am 8:20 ac fe wnaethom ein ffordd fyny’r ffordd am y goedwig ac at ddechra’r ddringfa am y copa cynta, Moelwyn Bach.
Roedd y tywydd yn oer ac yn braf gyda chydig o wyntoedd crfyion ar gopa Moelwyn Bach. Ar ôl ffarwelio â’r copa, gawsom banad cyn Graig Wen ac yna ymlaen am gopa Moelwyn Mawr cyn troi lawr i chwarel Rhosydd am ginio.
Or chwarel fe wnaethom ein ffordd drwy’r tir gwlyb am Llyn yr Adar cyn troi am Cnicht, copa ola’r dydd. I lawr â ni o’r Cnicht a chyrraedd yn ôl i’r ceir am 16:10.
Adroddiad gan Gethin Rowlands.
Lluniau gan Erwyn, Keith ag Elen ar FLICKR