Cylch De-orllewin Crib Nantlle 1 Tachwedd

Gyda dwy daith flaenorol y clwb wedi eu gohirio oherwydd tywydd garw, roeddwn yn awyddus i hon fynd yn ei blaen – ac felly y bu. Gostegodd gwyntoedd cryfion dydd Gwener, gan roi i ni ddiwrnod oedd bron yn gyfan gwbl sych, ychydig yn wyntog, a chyda golygfeydd eang.
Roedd hon yn daith o dri chopa a thri llyn. Cychwynnwyd o Lyn Dulyn, gan ddringo’r fraich uwchben Craig Cwm Dulyn i gopa Mynydd Graig Goch. Nid wrth y polyn fflag mae pwynt uchaf, fel mae llawer yn tybio, ond dros y wal ar hyd y creigiau. Fe’n hatgoffwyd gan Erwyn, ein ‘Nuttall-ydd’ profiadol, mai dim ond ers 2008 y dyfarnwyd statws Nuttall i’r mynydd, ar ôl ei ail fesur a chael ei fod chwe modfedd dros 2000’ – Nuttall mwyaf gorllewinol Cymru.
Hoe fach am baned allan o’r gwynt, yna ymlaen i Fwlch Cwmdulyn cyn dringo’n serth i gopa’r Garnedd-goch. Croesi’n syth i ben Craig Cwm Silyn, copa ucha’r dydd, yn 734 m. Yma cafwyd cinio cartrefol a chlos, gyda’r tri ar ddeg ohonom yn ffitio’n daclus i mewn i’r gysgodfan garreg ardderchog sydd ar y copa. Mae dau o Gofis Caernarfon wedi bod yn codi rhain ar ambell fynydd yn Eryri, a rhai da ydyn nhw hefyd, yn gadarn a chysgodol, a hyd yn oedd silff daclus oddi mewn i eistedd arni.
Dyna’r dringo wedi ei gwblhau am y diwrnod, a lawr a ni i gyfeiriad Bwlch Dros-bern, gan droi i’r gorllewin wrth nesu ato i gerdded ar lwybr annelwig at Lynnau Cwm Silyn. Dipyn o hwb, cam a naid i sboncio dros y sianel gul, orlawn rhwng y ddau lyn. Paned wedyn wrth y llyn lleiaf, sy’n le hyfryd, gyda’r llyn yn swatio o dan Graig yr Ogof a Chlogwyn y Cysgod. Gwneud ein ffordd yn ôl wedyn ar hyd godrau’r mynyddoedd i Lyn Dulyn.
Aeth rhai i wlychu pîg ac i gefnogi’r economi leol ym mar Bragdy Lleu ym Mhenygroes cyn troi am adra.
Da cael cwmni Gwyn a Paula, Erwyn, Sioned Llew, Iolo, Steve, Nia, Dilys ac Aneurin, Tegwen, Alice a Gethin ar y daith.
Adroddiad gan Elen Huws.
Lluniau gan Elen, Sioned, Erwyn ac Aneurin ar FLICKR
