Yr Wyddfa 4 Ionawr
Gwych iawn gweld bod ugain – deg gwaith cymaint â’r llynedd – wedi dod ynghyd yng Ngorffwysfa (Pen-y-pas) ar gyfer taith flwyddyn newydd flynyddol y clwb er bod rhai wedi colli’r bws ac wedi cyrraedd mewn steil mewn tacsi! Roedd yn gymylog ond sych wrth i ni gerdded tuag at Fwlch y Moch. Dim ond Geraint ddewisodd fynd dros Crib Goch a’r gweddill yn cadw at y llwybr. Roedd gorchudd da o eira yn creu awyrgylch gaeafol braf a’r cerdded yn ddigon rhwydd a bron pawb yn dewis y pigau bach sydd wedi dod mor boblogaidd erbyn hyn. Roedd yn dipyn prysurach o Fwlch Glas i fyny ac, oedd, roedd ciw i gyrraedd yr union gopa – ond yr aros yn ddim ond ychydig funudau cyn swatio yng nghysgod y caffi i gael cinio. Erbyn hyn, roedd y cymylau wedi codi a chafwyd golygfeydd trawiadol iawn o Lliwedd a’r llynnoedd ar y ffordd i lawr ar hyd Llwybr y Mwynwyr. Cafwyd dargyfeiriad gan bedwarawd y tacsi a biciodd i gopa Carnedd Ugain cyn dal i fyny â’r gweddill. Efallai bod y tywydd braf wedi ein denu i loetran mwy na’r arfer achos cael a chael oedd hi am 4.30 – eiliadau yn unig i rai – i ddal y bysiau am Lanberis a Phen y Gwryd.
Dylan, Trystan, Aled, Sandra, Sioned, Gerallt, Keith, Gareth, Dafydd, Mark, Steve, Matthew, Owain, Manon (ei thaith gyntaf – o lawer gobeithio – efo’r clwb), Elen, Catrin, Richard, Gwyn, Geraint, Richard ac Eryl oedd y criw.
Adroddiad gan Eryl Owain.
Lluniau gan Gerallt ar FLICKR