HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Flasu Pedol Marchlyn 5 Mai


Roedd hon yn wythnos brysurach nag arfer yn arwain i fyny i daith dwi’n arfer arwain oherwydd nifer y bobl a gysylltodd yn gofyn a allent ymuno â ni. Negeseuon, WhatsApp, tecst, ebyst a ambell alwad ffôn. Roeddwn i wedi bod yn ffodus i gael fy ngwahodd i siarad ar Galwad Cynnar ar Radio Cymru am y Daith Flasu ychydig wythnosau yn ôl a mi oedd hwn yn gyfle marchnata ardderchog i'r clwb. O siarad gyda rhai o'r rhai a fynychodd, roedd yn amlwg mai dyma sut daeth llawer ohonynt i glywed am y daith er ein bod ni wedi rhannu'r neges ar draws pob platfform cyfryngau cymdeithasol.

Gan gynnwys fi fy hun, mi wnaeth 37 ohonom gyfarfod ar fore oer a chymylog wrth y giât i fyny am Marchlyn uwchben Deiniolen. Yn dilyn penwythnos godidog, er bod y tywydd wedi aros yn sych, roedd y gwyntoedd wedi newid cyfeiriad ac yn chwythu o'r gogledd ac roedd hyn yn golygu bod y rhan fwyaf ohonom wedi cychwyn nid yn unig gyda cotiau mawr ond hefyd hetiau a menig. Rhyfedd iawn i feddwl yn ol am sefyll ar ben Ben Cruachan ganol mis Mawrth mewn crys T!

Roedd y tymeredd ar y copaon gyda'r oerfel gwynt yn agos at 0°. Pe bawn i wedi sylweddoli y byddai cymaint o bobl yn mynychu ar y diwrnod, byddwn i wedi ail feddwl y cynllun a threfnu pwyntiau gwirio ar hyd y ffordd ac anfon “Marshalls” o'n blaenau i sicrhau bod enw pawb oedd yn pasio yn cael ei dicio oddiar rhestr, ond roeddwn i'n ffodus i gael cymaint o aelodau profiadol o'r clwb i'm cefnogi a chadw llygad ar y rhai yn y cefn. Weithiau, pan oedd angen i mi symud yn ôl ac ymlaen roedd pobl fel Erwyn, Gethin a Jano yn hapus arwain ar y blaen.

Dewisais i gwblhau'r bedol yn chwythig gan anelu tua'r gogledd-ddwyrain o ddiwedd y ffordd ychydig islaw argae Marchlyn gan gyrraedd copa’r Fronllwyd. Wedyn troi tua'r de-ddwyrain i ddringo'n serth ond yn gyflym i fyny i gopa Carnedd y Ffiliast. Er bod hon yn 812 metr, nid yw byth yn teimlo'n ormod o ymdrech iw chyrraedd ond wedi dwud hyny mae’r man cycwyn yn 320 medr! Ar ôl seibiant byr, fe barhaon ni ar draws y llwyfandir sy'n darparu golygfeydd godidog o Ddyffryn Ogwen, y Glyderau a'r Carneddau.

Ymlaen wedyn dros Fynydd Perfedd ac i lawr i'r grib y tu ôl i Marchlyn Mawr. Does gen i ddim cof o weld lefel y dŵr yn y llyn mor isel erioed ac mae hyn yn arwydd o ddiffyg glaw rydym ni wedi'i gael yn ddiweddar. Fe wnaethon ni amser da ar y llethr serth olaf i fyny i gopa Elidir Fawr lle cafom ni stop am ginio a chymryd lluniau grŵp. O’r fan hyn mae'r daith i Elidir Fach yn un sydyn iawn ac ar ôl llun grŵp arall gyda baner y Ddarig Goch ar Elidir Fach fe wnaethon ni barhau ar gostyngyniad olaf i Farchlyn Bach lle cyrhaeddon ni'r ffordd ac aros i bawb ddal i fyny cyn cyraedd yn ôl at y ceir.

Roeddwn i'n ddiolchgar iawn am gwmni'r aelodau presennol a helpodd fi i gadw pawb gyda'i gilydd yn gymharol dda. Roedd aelodau'r clwb a ymunodd gyda ni yn cynnwys Gethin, Erddyn, Jano, Erwyn, Gwyn Chwilog, Gwen, Iolo, Bryn, Richard, Meic, Dilys, Aneurin, Sioned, Elen a Gwyn Llanrwst. Dwi'n croesi bysedd nawr i glywed ein bod ni wedi cael sawl aelod newydd ac mai’n amser i ddechrau meddwl am r daith flasu nesaf. Mae rhain yn sicr werth eu gwneud!

Adroddiad gan Stephen Williams.

Lluniau gan Aneurin, Sioned a Jano ar FLICKR