HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Siabod o Ddolwyddelan 5 Hydref


Taith wedi ei ail drefnu oedd hon, yn wreiddiol wedi ei threfnu fis Mehefin, ar ddiwrnod fy mhenblwydd – ond rhaid oedd gohirio oherwydd y storm fawr o fellt a tharanau a benderfynodd dorri ar draws popeth ben bore!

Rhyw dywydd ‘be wnai’ oedd hi tro ma hefyd, gyda’r rhagolygon ddim yn gant y cant yn siwr o be i neud – oedd hi am fod yn sych neu wlyb, clir ta niwlog – a dipyn o’r ddau a gawsom, ond gyda’r gwaethaf o Storm Amy wedi hen ymadael erbyn ddydd Sul. Felly, yn brydlon am 9:15yb, dyma gychwyn ar ein taith.

Cerdded digon braf i gychwyn, gyda dim byd rhy heriol, wrth i ni gerdded heibio tafarn y Gwydyr (ma 9yb braidd yn gynnar i alw mewn, enwedig ar fore Sul!), ag ymlaen drwy’r goedwig, heibio Beudy Brynbugeilyn, dros Sarn yr Offeiriad, hyd at ddiwedd trac y goedwig. Roedd copa Siabod, a chrib y Ddaear Ddu i’w weld yn glir, a felly dyma ddechrau ar y mynydda, gan ddilyn llwybr sy’n arwain at Llyn y Foel. Gyda’r afon llawn llif, rhaid oedd chwilio am le addas i’w chroesi, yn uwch i fyny na’r arfer. Wedi i bawb groesi’n ddiogel, dyma barhau ar y llwybr arferol, gan ddilyn yr afon mwy neu lai at y llyn.

Penderfynwyd yn eitha unfrydol y byddai’r llecyn ger yr argae yn lle hwylus i gael egwyl – o gysgod y gwynt, ac felly y bu. Wedi rhyw chwarter awr o egwyl, ymlaen a ni heibio’r llyn, at droed y Ddaear Ddu. Scrambl Gradd 1 digon hawdd ydi’r Ddaear Ddu, ond roedd y gwlybaniaeth dan draed yn ei gwneud ychydig mwy heriol, gyda’r creigiau yn eitha slic dan draed ond, er hynny, mentrodd pawb o’r cwmni y sgrialu, yn hytrach ‘na ‘r opsiwn gwyrdd yr oeddwn i wedi gynnig.

Tua hanner ffordd i fyny, dyma Ifan y Glaw yn penderfynu ymuno a’r daith, a fu rhaid cael stop bach sydyn i wisgo’r dillad glaw, cyn ail gychwyn ar y sgrialu tua’r copa! Dyma gyrraedd y copa toc wedi hanner awr wedi hanner dydd, lle penderfynwyd cael saib am ginio ynghanol y niwl er, diolch byth, roedd Ifan y Glaw wedi penderfynu ein gadael erbyn hyn- a diolch iddo am hynny!!

Felly, wedi i bawb hel i boliau, i lawr a ni, dros ysgwydd Ddeheuol Siabod, dros Moel Gid, ac ymlaen dros Clogwyn Bwlch y Maen. Roedd y niwl wedi hen glirio pellach, a chawsom fwynhau golygfeydd o brif fynyddoedd Eryri: yr Wyddfa a’r Glyderau, ac oddi tanom ardal Blaenau Dolwyddelan a Llynau Diwaunydd. Mae’n bosib cario mlaen dros Carnedd y Cribau, ond fy mwriad i’r daith oedd disgyn i lawr Bwlch Rhiw’r Ychen, i lawr at y llyn, ac felly y bu – i lawr a ni ar ein pennau, yn serth at Llynau Diwaunydd.

Tir digon gwlyb a di lwybr sydd o boptu’r llyn, a doedd y tywydd garw diweddar heb helpu llawer! Soniodd un aelod profiadol o ddalgylch ‘Pesda mai hon oedd y gors waethaf iddo ei chroesi (yn amlwg tydi o heb gerdded llawer yn ardal Stiniog felly!!). Ymhen hir a hwyr, dyma croesi y gors, a chael trac coedwig, dipyn brafiach, a llawer sychach dan draed, ac felly ymlaen a ni tuag at Pont Rhufeinig drwy ddilyn amrywiol lwybrau dros rhostir, ffriddoedd a choedwig.

Wrth agosáu at Flaenau Dolwyddelan, dyma gyrraedd Ceunant y Garnedd. Digon hawdd yw ei chroesi fel arfer, gan bod y dŵr yn ddigon bas, ond nid heddiw- roedd dipyn o sialens “krypton Ffactoraidd” i’n herio. Wrth lwc, mae rhaff wedi ei gosod dros y nant, o goeden i goeden gyda cherrig camu defnyddiol wedi eu gosod yn y dŵr, a rhaid i mi gyfaddef, cefais rhyw ebychiad o rhyddhad o weld fod y rhaff dal yno! Cafwyd dipyn o hwyl wrth ei chroesi, gydag ambell un ddim yn rhy siŵr, na rhy hyderus o’r rhaff a’r cerrig, ond da yw adrodd i bawb groesi heb anffawd, na wlychu traed.

Gyda diwedd y daith yn brysur agosáu, dyma sawl un yn holi lle mae’r Castell, ac ambell un yn fy amau os oeddwn yn deud y gwir ai pheidio am ei lleoliad – ac a fyddai’n llwybr yn ei phasio o gwbwl! – ond hir yw pob ymaros, ac yn ein Blaenau a ni heibio hen dyddynnod Ffridd a Ffridd Newydd tuag at Ty’n Pistyll a Pen y Rhiw. Heibio a ni drwy fuarth y fferm, a dilyn trac ‘dan lethrau Clogwyn Dolwyddelan, ac o’r diwedd gweld y Castell, a chael persbectif go wahanol, a thrawiadol i’r arfer ohoni, gan i ni gerdded heibio ei chefn, lle mae olion yr hen rhagfuriau i’w gweld yn glir – rhywbeth nad sydd i’w gweld o’r A470. Gyda Phentref Dolwyddelan i’w weld yn glir pellach, ymlaen a ni heibio Fferm Tan y Castell, a dilyn yr A470 yn ôl i’r pentref.

Rhaid oedd, wrth gwrs, gefnogi’r economi leol ac wedi ffarwelio â’r rhai oedd am droi am adre, i fewn aeth criw da ohonom i dafarn groesawgar Y Gwydyr, i dorri syched ar ôl yr holl gerdded! Diolch yn fawr i’r 11 a ymunodd gyda mi ar fy nhaith, a bod yn griw digon hwyliog, a hawdd eu cymell.

Taith o 11 milltir, 3,061’ o esgyniad, gyda dros 7 awr o gerdded oedd yn amhosib i bramiau!

Y criw diddan oedd: Sandra, Matthew a Leena, Tegwen, Anwen, Jano a Huw, Wil a Dafydd, Aled Hughes a’r ffyddlon Dafydd Legal.

Adroddiad gan Erwyn Jones

Lluniau gan Erwyn Jones ar FLICKR