Pedol Stiniog 6 Medi
Mae i bob clwb mynydda gwerth ei halen ystod eang o deithiau – yn amrywio o’r hawdd i’r anodd, o’r byrion i’r hirion, a hyd yn oed i’r epics, a tydi Clwb Mynydda Cymru ddim yn eithriad. Mae’n debyg mai i’r ‘hirion’, neu i’r ‘epics’ mae Pedol ‘Stiniog yn syrthio, ac yn sicr yn radd ddu. Does dim byd technegol i’r daith – dim scramblo, ac ar y cyfan cerdded go hawdd, ac eithrio ambell glip serth – a’r hyn sy’n ei gwneud yn heriol yw’r pellter – agos i 22 milltir!
Anfantais taith o’r fath wrth gwrs ydi’r angen i gychwyn yn reit gynnar – a hyn yn golygu codi yn llawer cynt o’r gwely i rai. I mi, unwaith eto, mater o rowlio o’r gwely, gwisgo amdanaf ac allan drwy’r drws ffrynt oedd hi gyda’r daith yn llythrennol fwy neu lai yn cychwyn ar stepen fy nrws! I eraill – (A diolch iddynt am ymdrechu), rhaid oedd codi llawer cynt o’r gwely i gyrraedd y man cychwyn. Felly yn brydlon am tua 6yb, roedd pawb wedi cyrraedd canol tref Ffestiniog, dau o Sir Fôn ac un o Port, yn barod i gychwyn ar yr antur am 6:15yb.
Doedd dim angen croesawiad hirfaith, gan fod pob un ohonom yn “vetrans” i’r daith a dau ohonom wedi arwain y daith hefyd yn y gorffennol. Tywydd dipyn gwell eleni o gymharu a’r llynedd – roedd hi’n sych, er yn gymylog, ond digon clir, er eto braidd yn wyntog. Cerdded digon braf am y dair milltir cyntaf, drwy strydoedd Stiniog, yna ar hyd godrau Nyth y Gigfran i gyrraedd Dolrhedyn. Cerdded braf eto i fyny allt Stwlan, cyn cychwyn ar y mynydda go iawn, wedi i ni basio’r argae enwog. Mewn tua awr a hanner, roeddem wedi cyrraedd y copa cyntaf – Moelwyn Bach, a heb oedi llawer ymlaen â ni dros Craig Ysgafn i gopa Moelwyn Mawr, sef pwynt ucha’r diwrnod.
Braf oedd cael cymharu gyda Dwynwen – un arall sydd wedi arwain ar y daith hon, y gwahaniaeth yn ein ‘routes’ – ac yma ar y ffordd i lawr oedd ein gwahaniaeth cyntaf. Yn syth drosodd i Moel yr Hydd oedd dewis Dwynwen rhai blynyddoedd yn ôl, ond fy llwybr i oedd disgyn lawr crib ogleddol Moelwyn Mawr i’w is-gopa, sef Y Garn Lwyd. Hon ydi’r enwog Moelwyn Mawr North Top yn llyfr Mr & Mrs Nuttall, a chopa gafodd ei dileu yn ddi-seremoni o restr copaon Cymru, gan and oedd y bwlch rhyngddi a Moelwyn Mawr yn ddigon i’w chyfiawnhau yn “Nuttall”. – Cafwyd dipyn o stŵr yn lleol am hyn, gan i’r stori cael ei cham ddehongli – a honni mai Moelwyn Mawr oedd wedi ei is-raddio!
Wedi piciad i’w chopa, er parch, ac er coffâd iddi, drosodd â ni dros dir corsiog Rhosydd i gopa Moel yr Hydd, lle cawsom olygfeydd gwych o’r Wyddfa a’r Glyderau, Cwmorthin, ‘Stiniog yn ei holl ogoniant, a draw am yr Arennig, Cadair Idris, Rhinogydd a’r môr. Ar ôl oedi ychydig i fwynhau’r golygfeydd, i lawr â ni i chwarel Rhosydd, ac yno cawsom ein egwyl cyntaf i cael mymryn o frecwast.
O’r Rhosydd, i fyny a ni dros dirwedd corsiog, draw am Lyn yr Adar. O’r llyn, anelu am Ysgafell Wen, ac yma cafwyd yr ail wahaniaeth rhwng fy nhaith i a thaith Dwynwen. Fel y gŵyr y cyfarwydd, mae gen i ‘dipyn bach o obsesiwn gyda chopaon y Nutalls, ac os cofiaf, anelu dros y ganol aeth taith Dwynwen – ond na – rhaid oedd i mi gael holl gopaon Ysgafell Wen – y drindod lawn! (ia, hen lol wirion, dwi’n cyfadda!).
Wedi rhodio dros y drindod, ymlaen â ni wedyn dros Moel Druman ac i fyny i’r Allt Fawr. Eto eleni, penderfynais aros yma i fwrw cinio- gyda phawb yn falch o’r cyfle, gan bod tanc pob un ohonom yn wag pellach, gyda llechwedd yr Allt Fawr bron â’n llorio. Gorfod troi ein cefnau eto ar Stiniog, fel y llynedd fu rhaid, i gael cysgod oddi wrth y gwynt i fwynhau ein cinio.
Gyda phawb wedi aillenwi eu bolia, cychwynwyd i lawr dros y Werddon, y Ro Lwyd ac i lawr i Fwlch y Gorddinan – y Crimea pass. Bum ddigon hirben noson gynt i guddio ychydig o boteli dŵr mewn hen dwnel chwarel, gan mai prin iawn yw’r cyfle i godi dwr o’r pwynt yma ymlaen, a da o beth hefyd, gan i ni gyd orfod cael “re-fill”! Ymlaen â ni, gydag eto ddigonedd o ddŵr yn ein meddiant, i groesi’r A470 ac i lawr at gilfan ogleddol Bwlch Gorddinan, er mwyn esgyn Moel Farlwyd. Roedd taith Dwynwen a fi yn amrywio ychydig yma hefyd, gan mai llwybr unionsyth oedd gen i i’r copa. (wedi llawer o arbrofi dros y blynyddoedd i’w ganfod!).
Seibiant sydyn ar gopa’r Farlwyd, cyn bwrw ymlaen, i lawr i fwlch Barlwyd ac esgyn llethr serth Moel Penamnen. Roedd diwedd y daith i’w weld yn glir bellach – copa’r Manod, a dyma ddechrau blannu’r syniad – pa gopa’r Manod fydda’r ola – y Mawr neu’r Bach?! Cerdded pur hawdd dan draed dros ysgwydd Penamnen, at y Foel Fras, cyn croesi’r gors at hen chwarel Cwt y Bugail. Cafwyd saib sydyn yma, cyn anelu at ddringfa fawr ola’r dydd i gopa’r Graig Ddu. (ymddiheuraf – The Manod Mawr North Top – ia, un o berlau’r Bonwr a’r Fonheddiges Nuttall!).
Erbyn hyn, roeddem di hen dorri cefn y daith, gyda chopa Manod Mawr o fewn ein cyrraedd, felly pennau i lawr – ac ymlaen! Braf iawn oedd cyrraedd Manod Mawr, a chael edmygu ffrwyth ein llafur a chael gweld y Bedol yn ei holl ogoniant – ond doedd y daith heb cweit ddarfod. I lawr a ni heibio hen chwarel Manod, a safle llofruddiaeth y Manod, dros ganrif yn ôl pellach, ac i lawr yr inclen at domeni Llyn Dŵr Oer.
Fel arfer, byddai’r daith yn parhau am i lawr i’r dref, ond ddim y tro yma - roedd un bach ar ôl - ac ar ddiwedd taith heriol, mae’r ansoddair ‘bach’ yn ysgwyddo dipyn o bwysau yn y cyd destun yma. Doedd dim llawer o waith perswadio ar y cwmni i esgyn y Manod Bach, a hyd y gwn i, dyma tro cyntaf i’r clwb gyrraedd y copa?! (dwi’n barod i gael fy nghywiro yma gyda llaw!). Bryncyn di-lwybr, eitha garw dan draed ydi’r Manod Bach, a dyma pam mae’n cael ei hosgoi gan y mwyafrif, ond mae’n werth yr ymdrech yn ddi os, a dyna ni – wedi tua 11 awr o fynydda, wedi cyrraedd ein copa olaf.
Llamu i lawr wedyn yn ôl at Llyn Dŵr Oer, dilyn yr inclên, a throi lawr, gan ddilyn llwybrau i lawr heibio Fuches Wen i lawr i’r dref. Gyda’r chwant am beint yn taro’n gry’ rhaid oedd meddwl am dŷ potas addas, gan bod y Queens Hotel wedi llosgi’n ulw rhai wythnosau yn ôl – felly taro mewn i’r Meirion Vaults oedd y penderfyniad unfrydol, i dorri syched, a gorffwyso fymryn ar y coesau, cyn anelu am adref. Wedi peint sydyn, anelu ein camre i’r man cychwyn, sef canol y dref.
Rhaid yw adrodd mai distaw iawn fu’r hen Mot ar y daith yma, heb yr angen i gnoi coesau, gan bod neb yn ‘hel i traed’ ac yn llusgo ‘mynd – OND, cafodd Gethin druan un frathiad slei sydyn cyn cyrraedd y maes parcio – i’w atgoffa fod yr hen Mot yma o hyd i gadw llygad ar ei braidd!!
Carwn ddiolch yn llaes i’r tri am ymuno hefo fi, ar daith digon heriol, ond hefyd llawn hwyl a sbri – a chafwyd digon o chwerthin yn ddi-os ar ambell ddarn o’r daith. 22 milltir, 8,120’ esgyniad, a thaith o 12.5 awr – ac un sy’n amhosib i bramiau! Diolch i Dwynwen, Gethin ac Andras am ddiwrnod cofiadwy arall.
Adroddiad gan Erwyn Jones.
Lluniau gan Erwyn ar FLICKR