HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

O Ben-y-Benglog i Fethesda 8 Chwefror


Ar ôl y siom o fethu ymweld â Chwm Eigiau oherwydd y rhew ar y lon o Dal y Bont, fe ddewisais gynllun wrth gefn, sef taith oedd wedi ei chanslo ddwywaith ym mis Rhagfyr oherwydd tywydd garw.

Bu 9 ohonom gyfarfod ar y bws yn Sgwâr Victoria ym Methesda a un arall yn ein cyfarfod yn Llyn Ogwen. Nid oedd hi’n fore i sefyll o gwmpas rhy hir ar ôl i ni gyrraedd a cychwynnom reit gyflym i gyfeiriad Llyn Idwal er mwyn cynhesu. Wrth i ni agosáu at ben draw’r Cwm a dringo heibio’r Rhiwiau Caws mi oedd hi’n rhewllyd ofnadwy dan draed ac roedd y rhan fwyaf ohonom wedi rhoi ein pigau bach ymlaen cyn cyrraedd y Twll Du. Neb allan yn dringo chwaith! Byddai'n rhaid i mi fwrw fy meddwl yn ôl i 2018 i gofio’r tro diwethaf i mi weld rhew fel hyn yn cronni o amgylch y clogwyni uwchben y cwm.

Fe wnaethom ein ffordd yn ofalus i fyny uwchben y Twll Du i Lyn y Cŵn ble ddiflannodd y golygfeydd am weddill y diwrnod. Ar ôl stop byr iawn wrth y llyn am baned gynnes roedd pawb yn awyddus i symud ymlaen ar gyflymder da am weddill y diwrnod. Roedd llwch o eira ar y ddaear oedd wedi disgyn y noson gynt a roddodd dipyn o naws gaeafol i'r diwrnod ond buom yn ffodus bod y gwynt mor ysgafn (yn wahanol i ragolygon MWIS) a’i bod hi ddim mor oer ag y gallai fod. Serch hynny, roedd hi’n ddigon oer i ni symud unwaith eto heb ddileu llawer ar gopa’r Garn a gwneud ein ffordd i’r Foel Goch cyn stopio am ginio.

Roedd o’n un o'r dyddiau lle gafodd ychydig iawn o luniau eu tynnu ac ychydig iawn o amser a dreuliwyd ar bob copa hefyd oherwydd bod pawb yn awyddus i gadw’n symud. Ar ôl mynd dros gopaon Mynydd Perfedd a Charnedd y Filiast roedd yr olygfa ar fin dychwelyd ond hefyd mi oedd her fwya’r diwrnod o’n blaenau. Mae gostwng o’r Fronllwyd i Chwarel y Penrhyn drwy’r grug bob amser yn waith caled a does na ddim un map sydd yn dangos y ffordd gywir i lawr!

Mi wnaethom orffen y diwrnod yn cerdded o dan y gwifrau Zip drwy’r chwarel i Fethesda a gorffen gyda peint o gwrw lleol yn Ty Mo. Braf oedd cael cwmni Gareth, Aled, Elen, Dwynwen, Sioned, Gwyn, Haf, Alys, Richard a Trystan.

Adroddiad gan Stephen Williams

Lluniau gan Steve ar FLICKR