HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pen y Bryn Fforchog a Glasgwm 8 Mawrth


Pan sylwais fod dyddiad fy nhaith yn disgyn ar yr un diwrnod a chychwyn taith Yr Alban y clwb, meddyliais baswn yn lwcus o gael 8 ar y daith, ond erbyn Nos Wener, roedd tair gwaith hynny wedi cofrestru eu bwriad i ymuno. Roedd 24 o gerddwyr brwd yn awyddus i ymuno â’r daith. Braf oedd cael croesdoriad eang o’r aelodaeth, gyda rhai wedi mentro i fyny o’r De i ymuno!

O gael cymaint yn awyddus i ymuno, disgynnodd y geiniog yn reit sydyn p’nawn Gwener na fyddai digon o le i barcio ym Mwlch yr Oerddrws, a byddai angen (i griw y Gogledd beth bynnag) cwrdd yn Nolgellau i rannu ceir ac felly, wedi cysylltu a phawb, felly y bu.

Bore Sadwrn, dyma i ni griw y gogledd gyfarfod yn Nolgellau, ac wedi cytuno pwy oedd yn mynd a cheir, ymlaen a ni i Fwlch yr Oerddrws, ble roedd criw y canolbarth a’r De yn aros yn eiddgar.

Roedd y sgwrsio a’r chwerthin yn iach iawn yn y maes parcio – arwydd da fod pawb yn awyddus i gychwyn y daith, felly ar ôl gair bach o groeso, a disgrifiad byr o’r daith, dyma ni’n cychwyn.

Os oedd y sgwrsio fel bwrlwm afon yn y gilfan, disgynnodd tawelwch mawr dros y lle, wrth ‘ni esgyn yn serth i gychwyn y daith. Roedd hi mor ddistaw, roedd rhaid i mi edrych dros fy ysgwydd sawl tro, i wirio fod pawb dal hefo mi, a neb ‘di troi nôl mewn braw!

Wedi esgyn, a choncro darn cyntaf Ochr y Bwlch, cawsom saib sydyn i gael ein gwynt yn ôl, a chael pawb nôl at eu gilydd.

Gyda phawb nôl at eu gilydd, a’r sgwrsio wedi hen ail gychwyn, ymlaen a ni, gan ddilyn ffens i ben Ochr y Bwlch, ple cafwyd golygfeydd hyfryd o ardal Dinas Mawddwy, a’r A470 islaw.

Dilyn y ffens eto fu ein hanes wedyn, gan ddringo’n fwy hamddenol i’n copa cyntaf – Pen y Brynfforchog.

Roedd y gwynt wedi cryfhau tipyn erbyn hyn, a phenderfynwyd cael egwyl sydyn, yng nghysgod gogleddol y copa, gan fwynhau golygfeydd o’r ddwy Aran, Arennig ac ardal Brithdir, Rhobell Fawr a’r Dduallt.

Wedi’r egwyl, yn ôl a ni i’r gwynt, dros dir di-lwybr gan anelu’n ddeheuol at goedwig y Graig Wen, i ymuno â thrac coedwig fyddai’n ein harwain at Fwlch Craig Cywarch, i esgyn Y Gribyn. Roeddwn wedi bwriadu mynd ymlaen i’r Foel Benddin, ond oherwydd y gwynt, penderfynwyd hepgor hyn – heb gŵyn gan neb!

Cafwyd saib sydyn i dynnu lluniau ac ati yma, cyn anelu nôl lawr i’r bwlch, a chychwyn dringo dros Craig Cywarch at ail gopa’r dydd – Glasgwm.

Ar y cyfan, roedd y llwybr yn reit amlwg, a hawdd ei ddilyn at y copa, ac eto, gyda ffens yn cynnig canllaw parod i hwyluso’r daith.

Ymhen tua tri chwarter awr, dyma ni ‘n cyrraedd Llyn y Fign, a’r copa. Llyn go anarferol, gan mai hwn yw’r unig lyn yng Nghymru, sydd ger copa dros dwy fil troedfedd. Daw’r gair Fign o’r gair Migneint yn ôl pob sôn – sef y gair am dir corsiog a gwlyb.

Penderfynwyd cael saib am ginio ger gopa Glasgwm. Cymaint oedd y gwynt yn rhuo bellach, fu bron i un aelod golli ei eistedd-fat, a gwelsom y cyfaill yn llamu fel mellten am pur lathenni i geisio’i achub (bron yn ofer!). Wedi rhai munudau, dychwelodd i fonllef o gymeradwyaeth, wedi llwyddo yn ei gamp! Gymaint oedd ei frys, fu bron i’w becyn bwyd ddilyn yr un trac, ond wrth lwc, methodd Morus y Gwynt cael gafael a ei luniaeth!

Ymlaen a ni felly ar ôl cinio ar ein taith, gan anelu eto at Pen y Brynfforchog, ond y tro yma dros sawl gamfa oedd wedi hen bydru, a thir llawer mwy garw, gwlyb a chorsiog, ond er garwed y tirwedd, roedd yr hwyl yn dal yr un mor fywiog o glywed y sgwrsio hwyliog!

Wedi i ni gyrraedd Pen y Brynfforchog am yr ail dro, mater o ddilyn y ffens eto oedd hi er mwyn cyrraedd y man cychwyn, ond osgoi ail ddringo Ochr y Bwlch, a disgyn yn serth i Fwlch yr Oerddrws. Os oedd esgyn yr ochr serth ma yn heriol ar y ffordd i fyny yn y bore, doedd troedio i lawr i orffen y daith ddim llawer haws chwaith.

Wedi cyrraedd ein ceir, a ffarwelio â rhai, aeth llond llaw ohonom ymlaen i dafarn y Cross Foxes am ddiod bach i ddarfod. Profiad go ryfedd i mi’n bersonol, gan i mi gael tair fonheddwraig yn dadlau (yn ffyrnig!) pwy oedd am brynu peint i mi- profiad braf iawn, ac anarferol rhaid i mi gyfaddef!

Carwn ddiolch o waelod calon i bawb ddaru ymuno ar y daith, ac am fod yn griw hawdd iawn eu cymell a’u bugeilio dros gopaon Dinas Mawddwy, a braf oedd cael sawl un yn adrodd bod yr ardal yma o fynyddoedd yn newydd iawn iddynt.

Y cwmni oedd: Eryl (Cricieth), Sam Dartnel, Gwenno Pugh, Meinir Huws, Nia, Peter Williams, Anne a Iola Till, Morfydd, David Levi (Caerdydd), Eurig James, Gwen (Aber), Dafydd Legal, Sioned Llew, Eirlys, Dilys ac Aneurin, Rhian, John Arthur ac Eifion – y ddeuawd o Lanrwst, Lisa Tomos, Gaenor, A Huw Mallwyd.

Adroddiad gan Erwyn Jones.

Lluniau gan Aneurin, David ac Erwyn ar FLICKR