HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pump Pumlumon 10 Mai


Byth ers i mi ymaelodi a’r clwb, dwy flynedd i’r diwrnod mwy neu lai, roeddwn wastad di bod yn awyddus i gynnig y daith hon, ac o edrych ar gofnodion teithiau, bu sawl blwyddyn ers i ni fel clwb ymweld a’r ardal, ac felly, ar ôl sgwrsio a thrafod gydag ambell aelod, o’r de a’r gogledd, dyma benderfynu ei chynnig ar gyfer y rhaglen bresennol.

Y gobaith oedd wrth ei chynnig, y byddai’n gyfle gwych i aelodau o’r de a’r gogledd gwrdd mewn ardal ganolig, a felly a bu, a braf iawn oedd erbyn nos Wener weld bod 14 aelod wedi cysylltu eu bwriad o ymuno, a mwy neu lai hanner-hanner o de/gogledd.

Roeddwn yn mawr obeithio y cawn dywydd braf – neu sych o leiaf, ac wrth lwc, felly y bu, er ychydig o wynt ar y copaon, ond dim byd rhy eithafol.

Felly, yn brydlon am 9:30yb yn Nant y Moch, wedi’r gair o groeso ac anerchiad cychwynnol, dyma gychwyn ar ein taith.

Roeddwn wedi rhybuddio’r cwmni byddai rhan gynta’r daith dros dir garw, di lwybr, er mwyn esgyn i’r copa cyntaf – a da o beth hynny, gan fod y dirwedd yn gorslyd, grugog a chrawcwelltog mwy neu lai yr holl ffordd i fyny – a diolch byth fod y tywydd sych diweddar wedi sychu rhywfaint ar y gors, i hwyluso’n dringfa gyntaf. Cymaint oedd yr ymdrech o frasgamu dros y Crawcwellt a’r Grug, bu rhaid i ni aros am ennyd i aelodau ‘ddiosg haen’!

Ar ôl ychydig dros awr o ddringo ymdrechgar, dyma ni’n cyrraedd ein copa cyntaf – Y Garn, a phenderfynais mai doeth o beth fyddai cael saib bach am banned, cyn i ni fwrw mlaen dim pellach – doedd dim dadlau ymysg y cwmni, a chawsom egwyl fer i gael ein gwynt nôl atom, a blasu golygfeydd godidog yr ardal.

Wedi’r egwyl, ymlaen a ni i gyfeiriad yr ail gopa, gyda’r cerdded dipyn brafiach dan draed, o gymharu a’r esgyniad cychwynnol. Wedi tua awr o gerdded, dyma ni yn cyrraedd ein ail gopa, a phwynt ucha’r dydd, sef Pumlumon Fawr. Cafwyd saib byr yma i dynnu lluniau ac eto fwynhau’r olygfa, cyn bwrw mlaen at drydydd copa’r diwrnod, sef chwaer fach hon- Pumlumon Fach.

Roedd dipyn o waith colli uchder er mwyn cyrraedd ‘y fach’, gydag un aelod yn cellwair (dwi’n meddwl / gobeithio!) am y peryg o rai i “desertio”! Ond braf oedd cyrraedd Pumlumon Fach, heb golli neb!

Cafwyd egwyl am ginio yma, a dipyn o drafod wrth geisio adnabod copaon Eryri, oedd i weld mor bell tua’r gorwel. Roedd y Tarrennau a Chadair Idris i weld yn glir, gyda rhai mwyaf craff yn gallu gweld yr Arennig yn y pellter.

Ar ôl cinio, rhaid oedd esgyn yn serth yn ôl i gyfeiriad Pumlumon Fawr, gan wyro i’r chwith, rhyw dri chwarter ffordd fyny, a cherdded yr ysgwydd uwchben Llyn Llygad Rheidiol er mwyn ail gyrraedd y prif lwybr. Yma, roedd hen Ffin-Faen lechen, a chafwyd cryn drafodaeth am tirfeddianwyr yr ardal. Ymlaen a ni wedyn at ein pedwerydd copa – Pen Pumlumon Llygad Fychan.

Mae’r ardal yma o’r Pumlumon yn nodweddiadol iawn, gan mai yma y terddir rhai o brif afonydd ein gwlad – y Gŵy, Hafren a Rheidiol, a hawdd iawn fyddai cyrraedd rhain, heb ormod o wyro o’r llwybr.

Cafwyd trafodaeth hefyd am darddiad yr enw Pumlumon, gydag un aelod yn sôn, i ffrind iddo honni mai o’r gair pump ac “lumen” sef tân/golau y daw’r enw, gyda choelcerthi yn cael eu cynnau ar y copaon, nôl yn y dyddiau a fu. Ceir sawl damcaniaeth arall hefyd wrth gwrs, megis pump llumon, - a gyfeirir at gopaon yn yr Hen Frythoneg – tarddiad “Lomond” yn yr Alban, yn ôl y sôn…

Roedd copa ola’r dydd pellach o fewn golwg – Pen Pumlumon Arwystli, ac ymhen dim, dyma gyrraedd y copa. Mae dwy garn hynafol wedi eu codi ar bwys y copa – ardal bwysig iawn felly yn ddi-os i’n cyn-deidiau.

Cafwyd croeso i ‘nghynnig o fanteisio ar gyfle am ‘ail ginio’ yma, a chawsom egwyl braf o thua hanner awr, ac eto trafod yr olygfa, ac erbyn hyn gallwn weld copaon Bannau Brycheiniog, a’r Mynyddoedd Duon yn y pellter.

Wedi’r seibiant haeddiannol, yn ôl a ni wedyn eto i gyfeiriad Pen Pumlumon Llygad Fychan, a gwyro i gyfeiriad Pen Cerrig Tewion, ac anelu i lawr am Llyn Llygad Rheidiol.

Gallem fod wedi disgyn i lawr o’r copa ola, ar ein penau i Gwm Hyddgen, ond gan bod sawl adroddiad am dir corsiog Hyddgen, doeth oedd i’w osgoi!

Wedi cyrraedd Llyn Llygad Rheidiol, roedd y daith yn ôl i’r man cychwyn yn bur hawdd, wrth ddilyn trac y bwrdd dŵr yn ôl i Nant y Moch. Fyddai wastad yn meddwl fod y rhan yma o’r daith yn ddi bendraw, er mai cwta dwy filltir ydi hi, ond buan iawn bu i ni gyrraedd y ffordd tarmac, a chyrraedd pen ein taith.

Carwn ddiolch o galon i bawb ddaru ymuno a’r daith, gyda aelodau o sawl ardal o Gymru wedi ymdrechu i gyrraedd Nant y Moch – ardal digon anghysbell, a sy’n dipyn pellach nag mae rhywun yn feddwl o bentref Tal-y-bont. Roedd dau wedi teithio yr holl ffordd o Gaerdydd, a dau arall yr holl ffordd o Ynys Môn

Y criw dedwydd, diddan a hawdd eu cymell oedd: Eirlys, Gwen, David a Margaret Levi (Caerdydd), Eurig James, Gethin ac Andras (yr holl ffordd o Sir Fôn), Peter Williams, Helen a Digby, Iolo Roberts, Dilys Philips, ac Eifion (Ardudwy).

Mawr ddiolch, a gobeithio cawn gyfle eto i gyd – fynydda yng nghanolbarth Cymru!

Adroddiad gan Erwyn Jones.

Lluniau gan Erwyn, David a Dilys ar FLICKR