Cwm Oergwm 11 Ionawr
Daeth deg ynghyd ym mhentref Llanfrynach rhyw bedair milltir i’r de ddwyrain o Aberhonddu ar fore llym o aeaf ar yr 11eg o Ionawr. Ymlwybro allan o’r pentref toc wedi chwarter wedi naw y bore gan ddilyn ochr dŵr byrlymus Nant Menasgin. Gadael y tir brâs a dechrau dringo ysgwydd Cefn Cyff, ei wyneb wedi britho gan rhew ag eira. Penderfynu yn syth i roi’r pigau bach ymlaen na’th brofi yn angenrheidiol weddill y dydd. Cerdded tua’r de orllewin gyda braidd dim niwl a digon o awyr las cyn cyrraedd copa Fan y Bîg. Tymheredd erbyn hyn yn minws chwe gradd Celsius oherwydd effaith y gwynt. Cymryd lluniau angenrheidiol arferol ar y copa. Pawb o’r grwp yn cael eu gwynt yn ôl ac yn barod i symud ymlaen yn bennaf i gadw’r oerfel draw.
Cerdded ar y brig dros Graig Cwmoergwm cyn troi i’r Dwyrain ag ymlaen i Graig Cwareli. Golygfeydd bendigedig lawr Cwm Oergwm. Wrth gyrraedd Rhiw Bwlch y Ddwyallt edrych yn ôl i’r Gorllewin at Fan y Bîg oedd erbyn hyn wedi ei lwyr guddio gan niwl trwchus. Cerdded heibio cyrion Pen y Bryn ac yn ôl lawr i’r gwastadedd i’r De o Lanfrynach dros rhyd Nant Menasgin gan gyrraedd nôl mewn da bryd cyn iddi dywyllu.
Adroddiad gan Alun Reynolds.
Lluniau gan Dewi a Pens ar FLICKR