Moel Ysgyfarnogod a Moel Penolau 11 Hydref
Er bod addewid o ddiwrnod sych a gobaith am dywydd heulog, niwl isel oedd yn croesawu’r deunaw ddaeth ynghyd ar lan Llyn Trawsfynydd. Chafwyd dim awgrym o law ond arhosodd y niwl efo ni tan gopa Moel Penolau, cyn codi digon i roi golygfeydd tuag Arenig Fawr i’r dwyrain a dyffryn Maentwrog a’r Moelwynion a Manod Mawr i’r gogledd, gyda chopaon pellach dan gwmwl o hyd.
Cerdded ar hyd y ffordd gul tuag at ffermdy anghysbell Cefn Clawdd, a’i gaeau gleision yn ynys amlwg yng nghanol y corstir brwyn a rhedyn oddi amgylch, oedd rhan gyntaf y daith ac yna dilyn olion hen ffordd garegog, a adeiladwyd ar gyfer cloddio manganîs, hyd at odrau’r copa cyntaf a’r uchaf o’r ddau, Moel Ysgyfarnogod, 623 m, ychydig dros 2,000 o droedfeddi.
Cyrhaeddwyd y copa wedi rhyw ddwy awr o gerdded ond, gan ei bod yn ddigon gwyntog yno, penderfynwyd mynd ymlaen am Foel Penolau cyn cael cinio. Moel Penolau ar y map ond tystiolaeth leol mai Pannwl/Panylau ydi’r enw i fod; panylau (dimples) yw’r y pantiau efo dŵr ynddyn nhw ar y graig o amgylch y copa – enw disgrifiadol perffaith.
Er mai’r ail gopa yw’r brawd bach o fymryn o’r ddau, naw metr yn is, mae iddo tipyn mwy o gymeriad gyda’r olygfa wrth ddynesu o ‘Sgwarnogod yn hynod drawiadol gyda mur o graig dalsyth yn gwarchod ei gopa. Rhoddwyd cynnig i’r criw rhwng herio’n clogwyni neu ddewis llwybr oddi amgylch; wedi i un gŵr o Lanberis droi am y graig dechreuodd eraill ei ddilyn ac, o dipyn i beth, penderfynodd pawb wneud yr un fath – a phawb (rwy’n meddwl) wedi mwynhau’r sgrialu, rhai yn dewis trywydd anos na’i gilydd.
Ymlaen dros Diffwys ac i lawr yn serth i fwlch bach cyn dringo rhyw ychydig eto i gopa Moel y Gyrafolen (ar y mapiau – Griafolen?) neu Moel Gron ar lafar gwlad. Dilyn llwybr cul sy’n igam-ogamu lawr drwy’r grug wedyn tuag at Fwlch Moch a cherdded mwy hamddenol dros dir gwlyb iawn mewn mannau i gyrraedd y ffordd ger Tŷ’n Twll a milltir dda wedyn heibio hen gapel Cae Adda, canolfan Tîm Achub Mynydd De Eryri erbyn hyn, yn ôl i’r man cychwyn.
Y cerddwyr oedd Paula, Gwyn a Susan, Sandra ac Anwen, Gwen a Gwyn o Chwilog, Buddug, Sioned Llew, Gareth o Lanystumdwy a Keith Tân, Tudor o Ddolgellau, Alun (Tywyn), Rhian o Ddinas Mawddwy a Gwen o Lanfarian ac Eurig James i fyny o’r de – ac wedi dringo Arenig Fawr y diwrnod blaenorol – a’r arweinydd!
Adroddiad gan Eryl Owain.
Lluniau gan Sioned a Keith ar FLICKR