Y Carneddau 12 Ionawr
Ar ôl i daith dydd Sadwrn gael ei gohirio a rhagolygon addawol am ddiwrnod braf mewn amodau gaeafol fedrwn i ddim peidio a chynnig taith a siawns i fynd i chwarae yn yr eira.
Er y byr rybudd daeth 16 aelod ynghyd ym Methesda bore Sul, Sioned Llew, Aled, Dylan, Trystan, Anwen, Sioned Prys, Carys, Erwyn, Math, Berwyn, Alice, Elen, Ifan, Anna, Gerallt a Dwynwen. Pawb a’u golwg ar Yr Elen yn edrych yn wyn ac yn fawreddog yn haul ben bore.
Ar ôl cael cymorth Sioned Llew a ’i gwybodaeth leol i ganfod y ffordd allan o Fethesda (y darn anoddaf o unrhyw daith ar y Carneddau!) dyma gychwyn i fyny ’r Elen. Buan iawn y gorfododd yr eira ac ongl y llethr i bawb roi eu pigau o dan eu esgidiau, mawr neu bach yn ôl eu dewis. Ar ôl seibiant am baned ar Yr Elen ymlaen a ni am Garnedd Llywelyn ac er ei bod yn ddiwrnod mor braf dim ond un person arall welsom ni rhwng Bethesda a chopa Carnedd Llywelyn.
Roedd 3 neu 4 criw arall ar ben Carnedd Llywelyn ond ar ôl gadael y copa dim ond 3-4 o bobl welsom ni weddill y dydd. Clywed gan ffrindiau ’n hwyrach fod hi “fatha ffair” ar Yr Wyddfa felly falch mai am y Carneddau aethom ni.
Y bwriad oedd cyrraedd Foel Grach ac yna penderfynu pa ffordd i fynd yn ôl i Fethesda. Penderfynwyd manteisio i’r eithaf ar amodau eira / tywydd a mynd ymlaen dros gopaon Carnedd Gwenllïan, Yr Aryg, Bera Bach a nôl dros Gyrn Wigau.
Dyma gyrraedd Bethesda fel oedd hi ’n tywyllu ond gan fod lleuad lawn yn goleuo’r eira doedd dim angen lampau pen.
Aeth rhai adref yn syth ond fe fentrodd rhai am Y Bull a chael croeso cynnes. Wrth glywed un o ’r hogia tu ôl y bar yn gofyn i Gerallt “lle nes di ffeindio rhein i gyd” dyma sylwi na dim ond y merched a Gerallt oedd di aros am beint haeddiannol.
Chwip o ddiwrnod, diolch i bawb am eu cwmni.
Adroddiad gan Dwynwen.
Lluniau gan Gerallt ar FLICKR