HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Cribau a’r Lliwedd 12 Ebrill


Cyfarfu 13 ohonom ym maes parcio Pen-y-Pas ar ddiwrnod olaf cyfnod hynod o braf a sych. Roedd y maes parcio’n brysur dros ben a rhyddhad oedd cael dechrau cerdded ar hyd Llwybr y Mwynwyr, heibio llynnoedd Teyrn a Llydaw cyn oedi am baned ger Llyn Glaslyn.

Roedd pawb wrth eu boddau’n sgrialu i fyny’r Cribau, a ni, er gwaethaf prysurdeb yr ardal, oedd yr unig griw ar y grib sy’n cysylltu glannau Llyn Glaslyn a Bwlch Ciliau. Ar ôl cyrraedd y bwlch, ymlaen â ni at odrau wyneb gorllewinol y Lliwedd lle roedd rhagor o sgrialu pleserus o’n blaenau. I fyny â ni i’r copa a gweld fawr o neb arall ar y ffordd i fanno chwaith.

Cerdded wedyn dros ddau gopa arall y Lliwedd cyn disgyn yr wyneb serth i lawr at lannau Llyn Llydaw cyn ailymuno â Llwybr y Mwynwyr i gerdded yn ôl i Ben-y-Pas. Cafodd rhai ohonom glo teilwng i’r diwrnod gyda pheint yng Ngwesty Pen-y-Gwryd.

Diwrnod gwych o fynydda, hwyl a thynnu coes yng nghwmni Eryl, Manon, Sioned, Eifion Llanrwst, Eifion Harlech, Erwyn, Aled, Anna, Gethin, Sandra, Rhys a Dafydd.

Adroddiad gan Richard Roberts.

Lluniau gan Richard, Sioned, Eryl a Sandra ar FLICKR