HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith arfordir a bryniau gorllewin Gwyr 12 Ebrill


Ymgasglodd 17 o gerddwyr yn y man cyfarfod, sef maes parcio Cwm Iorwg ger pentref Llanmadog (SS4398 9350).
Ar ôl cyfnod sefydlog o dywydd sych a braf, siomedig oedd gweld fod rhagolygon y tywydd ar gyfer y Gŵyr ar y dydd Sadwrn yn addo glaw trwm o tua amser cinio ymlaen.

Felly gyda glaw yn debygol yn y prynhawn, cynigais gerdded y gylchdaith o chwith i’r bwriad gwreiddiol, er mwyn cymryd mantais o’r golygfeydd arbennig o’r bryniau tra bod y tywydd yn hindda. Derbyniwyd y cynnig hyn yn unfrydol.

Gan fod pawb wedi cyrraedd a pharatoi mewn da bryd, fe ddechreuon ar ein ffordd yn brydlon am 9:30.
Gan anelu at gyfeiriad y de o bentref Llanmadog, roedd y llwybr yn  esgyn yn raddol lan Bryn Llanmadog. Fe ddilynon y llwybr at rhagfuriau bryngaer a Charn Fadog, sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Haearn, ar ochr ddwyreiniol o Fryn Llanmadog.

Cerdded tua’r gorllewin wedyn ar hyd y bryn, tuag at y pwynt trig (186 m) a’r plinth panoramig, lle cawsom seibiant i werthfawrogi’r golygfeydd da ar draws aber y Llwchwr a Twyni Whiteford, Sir Benfro yn y pellter, a draw at Dwyn Rhosili.

Disgyn i bentref Llangennith, ac amser am saib a tê deg wrth eglwys Sant Cennydd, cyn esgyn yn raddol eto at Dwyn Rhosili.

Twyn Rhosili yw un o'r uchafbwyntiau mwyaf trawiadol yn ardal y Gŵyr, gyda'i uchelfannau yn codi'n ddramatig uwchlaw'r môr. Wrth gerdded ar hyd y grib tuag at y pwynt trig (193 m, pwynt ucha’r daith), cawsom olygfeydd gwych dros Fôr Hafren, traeth Rhosili oddi tanom, yn ymestyn o Ben Pyrod at Ynys Lanwol, yn ogystal â golygfeydd i’r dwyrain draw at grib Cefn Bryn. Hawdd deall pam y dynodwyd y Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.

Yn ogystal â nifer o olion cyn hanesyddol, carneddau claddu a chestyll crwn, mae sawl platfform concrid amlwg i’w gweld yn sefyll allan ar y tirwedd. Yn ystod y 1940au roedd Bryn Rhosili yn safle strategol pwysig ar gyfer hyfforddiant milwrol ac arolygu'r arfordir. Mae’r platfformau yn weddillion o’r orsaf radar a godwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dilyn y llwybr wedyn tua’r de gan ddisgyn yn serth tuag at bentref Rhosili, ond troi nôl i gyfeiriad y gogledd cyn cyrraedd y pentre, a dilyn llwybr yr arfordir.

Cawsom ein cinio gerllaw maes gwersylla a charafanio Hillend, wedyn parhau i ddilyn llwybr yr arfordir i’r gogledd. Roedd tua milltir o gerdded ar hyd traeth Rhosili cyn cyrraedd pen gogleddol y bae ac Ynys Lanwol, Burry Holms.
Gan fod y llanw ar ei bwynt isaf, roedd cyfle i gyrraedd yr ynys. Dim ond un ohonom (Alison) oedd wedi ymweld â'r ynys o’r blaen ac fe benderfynon i gymryd y cyfle i’w cherdded.

Tua 30m yw uchder yr ynys ac wrth gerdded y llwybrau o’i hamgylch cawsom olwg o garnedd gladdu o’r Oes Efydd, adfeilion eglwys o’r 12fed ganrif, ag olion caer bentir o’r Oes Haearn.

Croesi’r traeth wedyn i ailymuno a llwybr yr arfordir, a chymal ola’r daith o ryw dair milltir. Er gwaetha’r rhagolygon, roedd wedi tri o’r gloch cyn iddi ddechrau glawio, gyda llai na tair milltir o gerdded ar ôl. Roedd cerdded rhannau o’r llwybr hyn yn llafurus, yn enwedig esgyn drwy dwyni tywod, gyda’r tywod yn glynu i’n traed yn y glaw. Ar ôl dilyn y llwybr o amgylch Bae Broughton, dros bentir Hills Tor roeddem nôl yn y maes parcio yng Nghwm Iorwg tua 4:15, gyda’r mwyafrif yn y dafarn erbyn 4:30.

Hyd y daith oedd 12.5 milltir, gyda 2,000 troedfedd o esgyniad.

Y criw hwyliog wnaeth ymuno â’r daith oedd Elan, Elin, Meirion, Dewi, Pens, Vaughan, Nancy, David, Margaret, Digby, Helen, Aled, Llŷr, Alison, Bruce ag Alun.

Adroddiad gan Eurig James.

Lluniau gan David, Eurig a Dewi ar FLICKR