Gwersylla ar y Carneddau 13/14 Medi
Dechra’r wythnos roedd yna gryn ddiddiordeb yn y daith wersylla a dim ond un oedd wedi dweud ei bod am wneud taith dydd Sadwrn yn unig. Ond, efo rhagolygon y tywydd yn mynd yn fwy ansefydlog a sôn am lâw a gwynt mawr dydd Sul, aeth rhestr y cerdwyr dydd Sadwrn i fyny a rhestr y gwesryllwyr i lawr…
Fel oedden ni yn disgwyl am y bws ym Methesda bora Sadwrn cawsom gawod drom ond er y dechra gwylb cafwyd diwrnod sych ar y cyfan. Roedd criw hwyliog o 12 yn cychwyn o Gapel Curig, Eryl, Elen, Dylan, Trystan, Sandra, Ariannell, Keith, Sioned Llew, Anwen, Sioned, Dwynwen a Gerallt.
Cawsom daith braf dros gopaon Pen Llithrig y Wrach, Pen yr Helgi Du ac ymlaen i gopa Carnedd Llywelyn. Yma gadawodd y “jibars” (yn ôl nhw eu hunain) ni, Eryl yn mynd nôl am ei fwlch (Bwlch Eryl Farchog) ac yn ôl i Gapel Curig a’r gweddill yn mynd yn eu blaenau dros Yr Elen ac i lawr i Fethesda.
Gadawodd hyn bump o wersyllwyr gwydyn sef Sioned Llew, Anwen, Sioned, Dwynwen a Gerallt i fynd i chwylio am rhywle cysgodol i dreulio’r nos ac i lawr am Ffynnon Llyffant yr aethom. Er y gwynt cryf ar gopa Carnedd Llywelyn cawsom lecyn eitha cysgodol ger y llyn. Ar ôl codi’r pebyll cafwyd cwrw bach haeddianol (paciau rhy drwm i gario mwy na un) a wedyn swper poeth i gnesu.
Doedd hi fawr o fachlud oherwydd y cymylau ond, ar ôl noson eitha cysurus yn y pebyll, cawsom wawr syfrdanol fore Sul. Y bwriad oedd mynd am gopaon gogleddol y Carneddau ar y ffordd nôl ond efo’r rhagolygon yn gaddo glaw trwm erbyn armser cinio dim ond copa Foel Grach gafwyd cyn mynd syth lawr a cherdded nôl i Fethesda drwy Gwm Caseg.
I goroni’r daith cafwyd ginio dydd Sul yng Nghlwb Rygbi Bethesda a sgram dda oedd hi ‘fyd.
Adroddiad gan Dwynwen Pennant.
Lluniau gan Gerallt ar FLICKR