Carnedd y Filiast - Waun Garnedd y Filiast - Carnedd Llechwedd Llyfn 16 Chwefror

  
A minnau'n  “gerddwr unigol” brwd, wnes i erioed ddychmygu y byddai cymaint o ddiddordeb  mewn “Hewitt Cymraeg” hynod anniddorol allan o'r ffordd. Wedi dweud  hynny, ymunodd yr 19 aelod canlynol o’r clwb â mi ar gyfer y daith fore Sul  yma, am daith gerdded gymharol fyr. Sef, Ann, Anna, Anwen (Cricieth), Aneurin,  Arwel, Dafydd, Dilys, Erwyn, Gethin, Gwyn, Iola, Iolo, Meinir, Paula, Richard,  Sandra, Sioned Bethesda), Sioned (Cricieth) a Tegwen.
      
      Mae  Carnedd y Filiast (Meirionydd) yn gopa eang ac ysgubol i’r gogledd o Lyn Celyn  ac wedi’i restru fel 15fed ar wefan lonewalker.net, gwefan sydd yn dangos Hewitts a theithiau hir a gwersylloedd gwyllt yma yng Nghymru. Os ydych yn hoffi unigrwydd  eich hun, llonyddwch gyda golygfeydd ysbrydoledig ar draws Cymru, mae o'n un  o’r copaon rhaid ei wneud (yn tywydd dda!).
      
      Wedi  cyfarfod fel y trefnwyd yn y gilfan ar hyd ffordd yr A4212 Trawsfynydd i’r  Bala, mi gychwynom i fyny’r trac coedwigaeth ac i mewn i’r coed cedrwydd.  Unwaith trwy'r coed ac allan i'r rhostir agored, roeddem ar ein ffordd ar hyd  trac stadau'r fferm. Ymhen rhyw awr troesom i fyny tuag at y gopa gyntaf, Moel  Boeth 596 m. Ffotograffau cyflym yn y gwynt oer o'r dwyrain ac ymlaen i'r man  cyntaf am de sydyn ym Mwlch Nant y Coed.
      
      Syth  ymlaen wedyn o’r te ddeg… wrth gerdded i fyny i Lechwedd Llyfn, sydd yn 640 m,  cyn mynd am gopa gwirioneddol Carnedd Llechwedd Lyfn (643 m). Mae copa Carnedd  Llechwedd Lyfn wedi'i nodi gan garnedd fechan sy'n sefyll gerllaw'r ffens ffin,  a’r ffens sy’n nodi llwybr cylchol Arennig Fach. Ymlaen wedyn i gopa'r Garnedd  y Filiast (669 m). Yma cawsom ginio brysiog wrth geisio cysgodi rhag y gwynt  chwerw oer ac wedyn y glaw.
      
      O’r copa,  lle oedd yr mwyafrif wedi oeri, gwnaed penderfyniad grŵp i osgoi Waun Garnedd y  Filiast ac Trum Nant-Fach oherwydd y newid a’r dirywiad annisgwyl yn y tywydd,  felly aethom ymlaen i lawr y trac stâd sy’n edrych dros ddyffryn Nant Hesgyn am  daith yn ôl, oer a diddigwyddiad, i’r man cychwyn gwreiddiol.
      
      Taith wlyb  o dan droed yn fannau, ond ar ddiwrnod braf ddi-gwmwl golygfeydd anhygoel o  Eryri a’r ganolbarth. Diolch i bawb am ei chwmni ac amynedd ar ddiwrnod mor oer  a gwlyb.
      
    Adroddiad  gan Keith Roberts
    
    Lluniau gan Aneurin ac Erwyn ar FLICKR 
