Llwybr Ann Griffiths Mercher 17 Medi
Dilynwyd yr afon Efyrnwy i ddechrau a cherdded i lawr i Ddolanog. Daeth Delyth a Nerys atom i ddweud ychydig am y Capel Coffa yno, ac wedyn mi wnaeth pawb ymuno i ganu ‘Wele’n sefyll...’ - un o emynau mwyaf adnabyddus Ann Griffiths. Cyfle wedyn i weld y Capel yn fanwl. Sôn hefyd am y bygythiad fu ar un adeg yng nghanol y 1950au i foddi pentref Dolanog, a’r protestio chwyrn a fu ar y pryd.
Yna ymlaen dros Allt Dolanog i Dolwar Fach, a Linda wedyn yn rhoi cyflwyniad byr yno am hanes Ann Griffiths, a chefndir y teulu. Yna ymlaen ar ein taith mewn cylch, a chyrraedd yn ôl i Pont Llogel.
Roedd 17 ar y daith (Eirian a minnau, Margiad, Eirlys, Roger Hayward, Raymond a Susan (Sir Benfro), Arwel Gwydyr, Anet, Gwyn, Gwen, Buddug, Angharad ac Eryl, John Arthur, Iona a Huw), a phawb wedi mwynhau.
Adroddiad gan Huw Jones.
Lluniau gan Huw ar FLICKR
Rhestr lluniau: Tu allan i’r Capel Coffa; Nerys a Delyth y tu allan i’r Capel; Yr ysgrifen y tu allan i'r Capel; Linda o flaen Dolwar Fach; Dolwar Fach; Delyth yn rhoi cyflwyniad yn y Capel; Pawb y tu mewn i’r Capel; Eirian a minnau efo Linda o flaen Dolwar Fach