HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Gyrn Ddu 19 Ionawr


Taith y waliau, a’r niwl (a gododd!).

Go isel yw’r mynyddoedd yma, o’u cymharu ag arlwy arferol y clwb. Gyrn Ddu yw’r uchaf, yn 522 m o uchder uwch y môr oddi tano.  Fodd bynnag, mae yma ymdeimlad o fod yn yr uchelfannau, gyda golygfeydd godidog – pan ellir eu gweld!

Wedi cychwyn o’r man parcio hwylus ar ddarn o’r hen ffordd ger tai teras Tan-y-Graig, a chodi heibio chwarel ithfaen o’r un enw, yn y niwl oeddem, ac felly bu ar ein mynydd cyntaf, y Gyrn Ddu. Am fod dim i’w weld, penderfynwyd peidio dringo dros y cerrig mawr, anwastad a llithrig at y copa ei hun.  Aed ymlaen ar fesuriad cwmpawd at y man croesi ar y wal uchel sydd rhwng y Gyrn Ddu a’r Gyrn Goch. Mae’r waliau yn yr ardal yma yn ddigon o ryfeddod. Waliau sychion, uchel, cadarn, gyda ambell garreg lletach ar draws i greu rhyw fath o gamfa. Gyda’r cerrig yn slic, dringodd pawb drosodd yn ofalus yn eu tro cyn anelu am gopa Gyrn Goch, ble cafwyd hoe bach am ginio – a diolch i Sioned am y cyflath!

Dyna biti na welan nhw’r olygfa o fama’, meddyliais – ond ddim am hir. Bron yn syth, teneuodd y niwl, a daeth arfordir Trefor, Dinas Dinlle a Sir Fôn i’r golwg. Dal i godi trwy’r dydd wnaeth y cymylau wedyn.  Aethom ymlaen am Fwlch Mawr trwy gylchu rhan uchaf cwm unig Corsyddalfa (am enw gwych), a chamu dros wal eto i osgoi trybola o fwd a baw gwartheg. Ail ginio ar y copa, cymeryd llwybr gwahanol at Fron Heulog, ac yna dychwelyd lawr y llwybr chwarel yn ôl at y ceir.

Wel – rhaid gofyn – a ddylid cael mwy o deithiau ar y Sul? Roedd 23 ar y daith, a da oedd croesawu rhai wynebau newydd. Diolch i Gareth, Ifan, Morfudd, Hefin, Eirwen, Jano, Sioned Prys, Anwen, Haf, Gareth (Llanystumdwy), Siân, Rhiannon, Rhian, Anne, Claire, Tegwen, Llinos, Gwyn (Hughes), Cheryl, Dei, Anna, Janet a Gwen (Aberystwyth) am eu cwmni hwyliog – a’u hamynedd wrth groesi waliau!

Adroddiad gan Elen Huws.

Lluniau gan Eirwen, Anwen, Morfudd ac Elen ar FLICKR