Llwybrau Ardudwy 19 Chwefror
Er nad oedd rhagolygon y tywydd yn rhy dda, cawsom ddiwrnod arbennig, a hyd yn oed haul yn y prynhawn, ar ein taith drwy Ardudwy.
Daeth cyfanswm o 21 o aelodau ar y trên hyd at stesion Llanbedr, cyn cerdded ar hyd glannau’r afon Artro i bentref Llanbedr. Wedi croesi’r bont hynafol a phasio tafarn y Vic, ymlaen wedyn drwy’r pentref a heibio bwthyn Tanywenallt, hen gartref ein teulu ni.
Llwybr wedyn i fyny at Blas Penrallt, plasty trawiadol, cyn dilyn y trac am Wern Ingian (Gwern Einion), ac ymlaen at ein safle cinio ar y ffridd wrth Tyddyn Du. Erbyn hyn roedd y niwl bron â chlirio o grib y Rhinogydd, a chafwyd golygfeydd hefyd o’r arfordir i lawr am y Bermo a thu hwnt, ac i’r gogledd am Eifionydd a Llŷn.
Wedi mynd heibio adfeilion hen adeiladau fferm, dilyn y ffordd darmac wedyn ar hyd y Fonllech, heibio un o’r meini hirion sy’n nodi Llwybr yr Oes Efydd, hyd at Foel Senig, uchafbwynt y daith o ran golygfeydd ac uchder. O’r fan hon roedd golygfeydd godidog i bob cyfeiriad, gyda fferm Merthyr i’r gogledd, Uwchartro a’i ffermydd tua’r tir, a’r môr tua’r gorllewin.
I lawr wedyn heibio ffermdai Hendre Ddyfrgi, Y Foel, Garth Mawr, a Chefnfilltir, gan ddringo sawl camfa gerrig amlrisiog drwy rai o waliau cerrig trawiadol Ardudwy, ac i lawr heibio Cae Du a’r pwll bedyddio hyd at Gapel Ucha, Harlech, lle cafwyd golwg dda o’r hen dref a’r castell.
Dewisodd rhai adael yn gynnar, ond cafodd y lleill gyfle i fwynhau paned a chacen haeddiannol a chymdeithasol yng Nghaffi’r Castell.
Diolch i’r 21 o aelodau ar y daith: John Williams, John Parry, Gwenan a Gwil, Anet, John Arthur, Iona Tanlan, Rhodri, Dewi ac Arwel, Roger, Nia Wyn a Meirion, Mags, Eryl ac Angharad, Buddug, Rhiannon a Clive, ac Anne Till.
Adroddiad gan Haf Meredydd
Lluniau gan Haf ar FLICKR