HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tal y Fan 21 Mai


Ar fore heulog braf daeth 18 cerddwr at ei gilydd ym mhentref Rowen gyda’r bwriad o ddilyn taith rhif 1 o’r llyfr Copaon Cymru. Y 18 oedd Nel, Eirlys, Graham, Dafydd (Dinbych), Lynne, Margaret, Winnie, Nia, Meirion, John Arthur, Iona, Llyr, Nia (Seion), Clive, Gwyn (Chwilog), Arwyn, Aneurin a Dilys. Estynnwyd croeso arbennig i Nel oedd nid yn unig ar ei thaith gyntaf ond wedi dewis dod i ddathlu’i phenblwydd yn ein cwmni.

Roedd y daith yn cychwyn drwy ddilyn Llwybr y Pererinion, heibio i fedd Wallace (ci plasdy Coed Mawr fu farw yn 1900 pan aeth dan olwynion y goets wrth ruthro i gyfarch ei feistr), cyn troi i fyny drwy goedwig Coed Mawr. ‘Roedd clychau’r gog wedi hen ddarfod gan fod y tymor eleni mor gynnar. Wedi dringo i fyny llwybr go serth daethom at Ffridd Garreg Boeth sy’n gyforiog o gennin Pedr cynhenid yn y gwanwyn cynnar ac oedd hefyd yn fôr o las rhyw bythefnos yn ôl, ac yna cyrraedd Hen Eglwys Llangelynnin. Yno roedd pawb yn falch o seibiant am baned.
Wedi i ni adfywio rhywfaint aethom yn ein blaenau ar hyd llwybrau braf at Gaer Bach, bryngaer hynafol sydd ag olion y waliau i’w gweld yn glir. ‘Roeddem yn edrych i lawr ar Ddyffryn Conwy yn ei holl ogoniant, a chaer Rufeinig Caerhun i’w gweld oddi tanom. Bu dipyn o grafu pen ymysg rhai drio cofio geiriau’r hen bennill -
“Afon Conwy’n llifo’n felyn/Mynd â choed y maes i’w chanlyn...”

Braf oedd gweld y merlod mynydd gydag ebolion bach. Mae rhain yn unigryw i’r Carneddau, yn byw’n wyllt ar y mynyddoedd drwy’r flwyddyn, a’r hil wedi bod yno ers tua mil o flynyddoedd.

Roedd dringfa go serth arall o’n blaenau o Gaer Bach i gyrraedd y wal sy’n rhedeg ar hyd copa Tal y Fan tuag at y piler triongli, a'r pwynt uchaf – 2001 troedfedd, felly mynydd go iawn! O’r piler triongli aethom yn ôl tua’r gogledd-ddwyrain am ychydig funudau at garreg gannan (ganon), sy’n nodweddiadol mae’n debyg o ardaloedd chwarel gogledd Cymru ac oedd yn boblogaidd yn Oes Fictoria. Yno cawsom gyfle i gael cinio tra’n cysgodi rhag gwynt go fain.

Er mawr ryddhad i bawb roedd ail hanner y daith ar i waered. Buom yn dilyn y wal at y bwlch  rhwng Tal y Fan a Foel Lwyd ac yna troi i lawr at y lôn Rufeinig (rhan o’r ffordd oedd yn rhedeg o Gaerhun i Segontiwm yn ôl rhai) a chyrraedd heneb arall – cromlech Maen y Bardd. O’r fan honno roedd yn daith gweddol rwydd ar draws caeau i’r lôn darmac wnaeth ein harwain yr holl ffordd yn ôl i Rowen a thafarn y Tŷ Gwyn a phaned neu beint haeddiannol.

Diolch i bawb am ddiwrnod pleserus mewn cwmni cyfeillgar a di-rwgnach.

Adroddiad gan Dilys Phillips.

Lluniau gan Aneurin ar FLICKR