Y Carneddau o Gwm Eigiau 21 Mehefin
Roedd hi'n ddechrau cynnar iawn i'r rhai ohonom wnaeth gyfarfod am 8 o’r gloch tu allan i dafarn y Bedol yn Nhal y Bont ar fore poeth. Anaml byddwn yn arfer cychwyn mor gynnar â hyn, Y mwyafrif ohonom wedi gadael y tŷ cyn 7 y diwrnod hwnnw oherwydd ein bod ni'n awyddus i wneud yn siŵr cael lle parcio ar ddiwedd y ffordd yng Nghwm Eigiau. Roeddwn ddigon ffodus mai dim ond criw bach oeddwn ni oherwydd roedd nifer o leoedd wedi'u cymryd pan gyrhaeddon ni, a mi allai’r lle fod yn eithaf poblogaidd hefo faniau gwersylla yn ystod misoedd yr haf.
Roedd hi'n anodd rhagweld beth fyddai'r tywydd yn ei wneud ar ôl y dyddiau poethaf o'r flwyddyn hyd yn hyn. Rhagolygon ddim i weld yn siwr beth i’w ddweud. Fel sy'n digwydd fel arfer yng Nghymru, mae stormydd mellt a tharanau yn aml yn dilyn ar ôl cwpl o ddiwrnodau poeth ond mi oeddwn ni ddigon ffodus osgoi rhain y diwrnod hwn.
Gwnaethom ein ffordd yn raddol i fyny'r trac heibio argae Llyn Eigiau a aeth â ni'n uchel i fyny i'r Cwm wrth yr hen chwarel. O’r fan hyn roedd hi'n daith galed ar draws dir corsiog, serth i gyrraedd yr ysgwydd rhwng Carnedd Llywelyn a Foel Grach. Ar y pwynt hwn y sylweddolodd rhai ohonom pam roedd y daith hon wedi'i graddio'n goch! Wrth i ni ddringo'r 200 medr olaf i gopa Carnedd Llywelyn, newidiodd y tywydd yn sydyn ac er ein bod ni wedi bwriadu cael cinio ar y copa, mi oedd hi fwy deniadol gohirio cinio am rhyw ¾ awr arall ac anelu am loches Foel Grach. Roedd Erwyn ychydig yn damp erbyn hynny ond newidiodd y tywydd eto ac erbyn i ni gyrraedd y lloches, roedd y glaw wedi stopio, roedd y gwynt wedi arafu, ac roedd yr awyr yn dechrau clirio. Penderfynon ni fwyta tu allan. Mae’r loches yn le braf yn y gaeaf ond does gan neb fawr o awydd eistedd mewn cwt tywyll pan mae’r haul allan! Mi wnaeth y tywydd wella'n raddol am weddill y prynhawn ar ôl hyn. Parhaon ni i gopaon Carnedd Gwenllian a Foel Fras cyn ail-ddilyn ein camau am ychydig a disgyn yn serth i Lyn Dulyn.
Yn dilyn cyfnod o dywydd eithriadol o sych, roedd lefel y dŵr yn y llyn mor isel roeddwn ni’n gallu cerdded allan at bropelor awyren Dakota C-47, a darodd y clogwyn uwchben y llyn mis Tachwedd 1944. Fel arfer, mae’r propelor sawl metr o dan y dŵr a doedd fawr o neb wedi ei weld o o’r blaen er bod pawb wedi bod yno sawl gwaith. Derbyniodd pedwar o griw awyrennau'r Unol Daleithiau neges ar ôl cychwyn o Paris yn gynharach y diwrnod hwnnw. Eu cyrchfan oedd maes awyr Burtonwood, Swydd Gaer, ond bu rhaid iddynt wyro i RAF Valley, Ynys Môn oherwydd tywydd gwael. Tarodd yr awyren i fewn i glogwyni uwchben y llyn a daeth uned radio'r RAF o hyd i weddillion yr awyren yn ddiweddarach y mis hwnnw. Dim wrth sefyll wrth ymyl y propelor yn edrych ar y clogwyni uwchben y llyn byddwch chi'n gwerthfawrogi pa mor galed oedd yr awyren wedi taro a pha mor bell deithiodd y propelor. Dylwn i fod wedi cofio diweddaru fy ngwybodaeth am y hyn cyn cael fy holi amdano ddydd Sadwrn. Mae gen i lyfr sydd gartref "No Landing Place" ddarllenais i tua 12 mlynedd yn ôl. Tydi’r cof ddim beth oedd o!
Roedd gennym ni’r dewis o fwyta dan do yn Lloches Dulyn ond fe benderfynon ni unwaith eto gymryd ein seibiant olaf tu allan. Ar ôl dringfa fer iawn i fyny i Melynllyn, fe barhaon ni ar hyd y llwybr yn ôl at y ceir mewn tywydd hafol hyfryd. Awgrymwyd peint yn Y Bedol ac ar ddiwedd taith hir mae’r syniad yn codi syched enfawr felly gwynebau hir gan pawn pan gyrhaeddon ni’n ôl i lawr i Tal y Bont i ddarganfod bod y dafarn ar gau. Erwyn awgrymodd i ni fynd i’r Fairy Falls neu “Rhaeadr y Tylwyth Teg” yn Nhrefriw. Mae gan hogiau Blaenau enw gwahanol arall hefyd er mai’n well i mi gadw hwnnw i mi fy hun er ei fod o wedi gwneud pawb chwerthin!. Wrth i ni gyrraedd Trefriw, newidiodd y tywydd unwaith eto fel y monsŵn. Roeddwn ni mor ffodus ein bod ni wedi osgoi’r gawod hon, yn enwedig Erwyn, a oedd wedi anghofio ei siaced law. Diwrnod gwych ac yn braf iawn cael cerdded y Carneddau o Ddyffryn Conwy. Dwi'n siŵr ei bod hi’n flynyddoedd maith ers i'r Clwb fod i Gwm Eigiau ddwytha a mi oeddwn i’n meddwl i fi fy hun pam nad ydym yn dod yma'n amlach. Lle braf ofnadwy (pan mae’r haul allan). Hyfryd cael cwmni Dafydd Legal, Dwynwen, Elen, Eryl Owain, Eryl, Sandra ac Erwyn.
Adroddiad gan Steve Williams
Lluniau gan Steve ar FLICKR