Cylchdaith Bannau Sir Gâr 21 Mehefin
Man cychwyn y daith hon oedd maes parcio Llyn y Fan Fach, ryw filltir a hanner i’r dwyrain o Landdeusant. Ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn a rhagolygon y tywydd yn weddol ffafriol, ac yn llai cynnes na’r rhagolygon gwreiddiol, nid syndod oedd darganfod y maes parcio bychan yn weddol llawn erbyn 9:15, er bod digon o le wrth ochr yr heol. Teithiodd wyth ohonom ar hyd y lonydd cul gwledig i gyrraedd y llecyn hyfryd hwn yng nghesail Bannau Sir Gâr wrth ochr yr afon Sawdde.
Yn lle dilyn y prif lwybr at Llyn y Fan Fach, fe gymeron y llwybr llai amlwg o’r maes parcio i’r dwyrain a wedyn y gogledd ddwyrain, uwchben nant Sychnant. Dilyn hwn am ryw dri chwarter milltir cyn troi tua’r de ddwyrain, gan gadw i esgyn yn raddol dros Disgwylfa a Cefn Disgwylfa, ag anelu at gyfeiriad Llyn y Fan Fawr. Nid oedd y llwybr ymhell o darddle yr afon Wysg, er ni gymeron y dargyfeiriad ato y tro yma.
Ymhen rhyw ddwy filltir dyma ni’n cyrraedd y prif lwybr sy’n arwain o Lyn y Fan Fach at Llyn y Fan Fawr, wrth droed Fan Foel, a dilyn y llwybr yma o dan y grib at Lyn y Fan Fawr. Erbyn hyn roedd ym amser am saib a cawsom le am ein tê-ddeg gan edrych lawr dros y llyn.
Ymlaen wedyn a dilyn llwybr uwchben glannau gorllewinol y llyn i ymuno â’r llwybr sy’n esgyn yn serth o’r llyn tuag at Bwlch Giedd. Esgyn wedyn at Fan Brycheiniog, pwynt ucha’r daith (807 m).
Ar ôl saib i edmygu’r olygfa a thynnu rhai lluniau, dilyn y llwybr lawr at Fwlch Blaen Twrch, cyn esgyn eto at gopa Picws Du (749 m). Cerdded weddol hamddenol wedyn ar hyd crib Bannau Sir Gâr at Waun Lefrith (677 m). Cawsom ein cinio yn edrych lawr dros Llyn y Fan Fach a draw at glogwyni dramatig Picws Du.
Ymlaen ar lwybr llai amlwg tua’r gorllewin wedyn gan ddisgyn yn raddol at rhywfaint o dir gwlyb a chorsiog wrth ymyl nant Twrch Fechan. Esgyn wedyn ar lwybr aneglur i ymuno â Llwybr y Bannau, a’i ddilyn am ryw ddau gan metr at gopa Garreg Las (Twyn Swnd) (635 m). Yma gwelir dwy garnedd gladdu gyn-hanesyddol nodedig, sydd tua 20 m mewn diamedr, ac yn dyddio o’r oes Efydd (tua 2000 CC).
Anelu wedyn at bwynt trig Carreg yr Ogof (585 m), oedd i’w weld ryw filltir yn y pellter, gan ddilyn Llwybr y Bannau tua’r gogledd, ar draws y palmentydd calchfaen. Yma roedd olion hen chwareli calchfaen i weld yn glir o gwmpas copa.
Cymal diwetha’r daith oedd dilyn Llwybr y Bannau lawr dros y rhostir agored at gyfeiriad Llanddeusant. Ar ôl cyrraedd camfa wrth ymyl y rhostir, rhaid oedd dilyn trac carregog nes cyrraedd ffordd darmac. Dilyn hon i lawr at waelod y cwm, ond troi i’r dde cyn croesi’r bont dros y Sawdde, a dilyn llwybrau drwy ffermydd Blaensawdde (cartref Gwyn, y bugail ifanc o chwedl enwog Morwyn Llyn y Fan Fach) a Gorsddu. Ar ôl cyrraedd ffordd darmac arall, yn hytrach na chroesi’r bont ar y chwith a dilyn y ffordd nôl i’r maes parcio, fe ddilynon y llwybr wrth ochr yr afon Sawdde. Un prawf arall ar y coesau i esgyn yn sydyn drwy’r coed, dilyn ffens i ben y bryn, cyn troi i’r chwith a wedyn disgyn nôl lawr ar y trac tuag at y maes parcio. Gan ein bod wedi osgoi defnyddio’r bont, rhaid oedd croesi’r afon er mwyn cyrraedd y ceir. Llwyddodd pawb i’w chroesi gan gadw eu traed yn sych.
Er ambell i gawod ysgafn o law, cafwyd diwrnod hwyliog o fynydda ym Mannau Sir Gâr, a phawb yn ddiolchgar am yr awel ar y copaon. Hyd y daith oedd tua 12.1 milltir (19.5 km), gyda 3,300 tr (1,000 m) o esgyn.
Diolch i Digby, Helen, Elin, Rhun, Bruce, Alison ac Elan am eu cwmni.
Adroddiad gan Eurig
Lluniau gan Eurig ag Alison ar FLICKR