HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llwybr Llanbêr a Moel Cynghorion 22 Chwefror


Daeth wyth ohonom ar y daith yma oedd yn wreiddiol i fod ar y Dydd Sul yr 23eg o Chwefror: Braf oedd cael cwmni  Sandra, Morfydd, Alice, Eryl, Ailinor, Gareth a Haf a Rhiannon i gerdded daith oedd yn Newydd i mi tan yn ddiweddar.

Ar ôl dywydd garw y diwrnod cynt, roedd yn braf gweld yr haul i gychwyn ein taith. Cychwynnom o Llanberis am yr YHA yn Llanberis ac anelu am Lwybr Maesgwm at Capel Hebron Cwm Brwynog.
Llawer o drafodaeth difyr wrth gapel Hebron wrth i Rhiannon a Morfydd ddeud ychydig o hanes am yr ardal.

Ddes ar draws yr hanes yma wrth ddarllen am Gapel Hebron: “Methodistiaid Calfinaidd gododd Capel Hebron yn 1833. Capel Hebron oedd yr unig adeilad cymunedol yn y Cwm ac yn dal 120 o bobol, roeddynt yn cael cyngherddau yno ac roedd y bobol lleol yn medru cwrdd yno i drafod problemau pan oeddent angen ei trafod. Roedd gan y capel 31 o aelodau yn 1875, 50 yn 1877 ac yn 1899 roedd y gynulleidfa yn fychan ond yn hynod o ffyddlon. Fe gaeodd Capel Hebron yn1958, cafodd y gwasanaeth diwethaf  ei gynnal y tu allan oherwydd roedd yr allweddi ir capel ar goll!”

Fe aethom ymlaen a chroesi yr trac trên ac yno ymuno â lwybr yr Wyddfa. Panad yn yr haul wrth y caffi hanner ffordd ac ymlaen at waelod Allt Moses. Fe aethom oddi ar y llwybr yn fan hun ac anelu am Maen Ddu’r Arddu, trafodaeth am Lili’r Wyddfa  wrth edrych draw am Clogwyn Ddu’r Arddu ac sôn am fynd yno Mis Mai-dechrau Mehefin i drio gael golwg os welai y Lili fach.

Fe aethom i lawr ac anelu am fwlch Cwm Brwynog, ar ôl cyrraedd top y bwlch cawsom ginio bach (er y gwynt yn fain), roedd yr haul dal i wenu. Fynnu Clogwyn llechwedd Llo am gopa Moel Cynghorion cyn cael tynnu ychydig o luniau; Morfydd gafodd y joban yma, ond tipyn o drafferth cael y ffôn symudol i aros yn llonydd!!  Fysa Gerallt Pennant ddim yn rhoi swydd iddi o gwbwl!!!

Ymlaen dros Bwlch Garreg y Gigfran ac lawr i Bwlch Maesgwm. Sgwrsio yn fan yma gyda aelod o Clwb Mynydda Cymru oedd wedi dod a criw o ochra Caer; lawr a ni y llwybr heibio Maesgwm yn ôl i Lanberis.

Paned a sgonsen yn caffi Becws Melyn i orffen diwrnod da. Diolch am eich cwmni, tan y tro nesa.

Adroddiad gan Sandra Parry.

Lluniau gan Sandra ar FLICKR