HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Moel Hebog, Moel yr Ogof a’r Foel Lefn 22 Mawrth


Gyda rhagolygon y tywydd yn proffwydo bore sych a chawodydd trymion yn y prynhawn, a Gerallt ar Galwad Cynnar yn darogan fod ‘heddiw yn ddiwrnod lle mai’r bore sydd piau hi’, soniais wrth y naw aelod oedd am ymuno â mi ar y daith i fyny Moel Hebog a’i chymdogion ei bod yn debygol o fod yn ddiwrnod o ddau hanner, ac y byddem angen ein dillad glaw yn y prynhawn. Nodais hefyd fod natur y daith yn un o ddau hanner, gyda’r rhan gyntaf yn ddringo llethrau a chrwydro’r ucheldiroedd tra byddai’r ail hanner yn dilyn llwybrau drwy’r goedwig.

Wrth groesawu’r naw aelod i Feddgelert, sef Ariannell, Erwyn, Eryl, Gwyn Llanrwrst, Haf, John Arthur, Meinir, Sandra a Siân, roedd yn bleser croesawu Gwyn ar ei daith gyntaf efo’r clwb ers iddo gael ei driniaeth, ac Ariannell ar ei thaith gyntaf ar ôl dychweld o’i teithiau i Awstralia a Seland Newydd, a hefyd nodi mai dyma’r tro cyntaf i Haf a Siân fod i fyny Moel Hebog.

Fe gychwynnwyd ar hyd y llwybr o’r maes parcio ger y rheilffordd cyn ymuno â Lôn Gwyrfai nes cyrraedd ceg y llwybr a fyddai’n ein harwain i gopa Moel Hebog. Wedi hynny roedd yn dynnu fyny cyson nes cyrraedd y copa. Penderfynwyd, gan ei bod yn fore mor braf a chlir, y byddai’n syniad da ymlwybro i’r copa (oni bai am ambell i saib i gael diod neu dynnu haen) a chael paned hwyr yno er mwyn cael digon o gyfle i fwynhau’r golygfeydd eang o’n cwmpas. Felly y bu, a chawsom ni ddim o’n siomi - roedd yr haul yn twynu arnom ar y copa a chawsom ein paned/cinio cynnar yn mwynhau’r golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a’r arfordir o’n cwmpas. Ymlaen a ni wedyn i lawr i Fwlch Meillionen cyn dringo dros Moel yr Ogof a Moel Lefn. Cawsom seibiant arall a phaned arall ar gopa Moel Lefn - eto yn yr haul a dim sôn am law!

Disgyn wedyn i Fwlch Cwm-trwsgl a saib bach ger y chwarel cyn anelu i lawr am Lyn Llywelyn. Gwyriad bach yno er mwyn manteisio ar y cyfle i gerdded y llwybr troed newydd sydd wedi ei greu ar yr argae ar ben y llyn. Wrth fynd yn ein blaenau ar hyd llwybrau a ffyrdd y goedwig roeddem yn synnu at y llanastr a grewyd gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr, gyda nifer sylweddol o goed wedi eu dymchwel. Toc, fe ymunom â Lôn Gwyrfai a’i dilyn yn ôl i Feddgelert a chafwyd cyfle am lymaid cyn dychwelyd am adref yn nhafarn y “Prince Llywelyn”.

Roeddwn yn hynod o falch nad oedd rhagolygon tywydd yn gywir ac y cawsom dywydd braf a chynnes trwy’r dydd heb sôn am law. Roedd Gwyn yn bendant, ar ôl y sylwadau a wnaed ar y fforwm “What’s App” fod ei bresenoldeb ar deithiau yn sicrhau glaw, nad oedd yn haeddu’r teitl "Gwyn Glaw" bellach!

Mawr ddiolch i’r criw am eu cwmni bywiog a hwyliog yn ystod y dydd ac yn sicr bu Haf a Siân yn hynod o ffodus i gael diwrnod mor braf i ddringo i gopa Moel Hebog am y tro cyntaf.

Adroddiad gan Iolo Roberts.

Lluniau gan Erwyn a Sandra ar FLICKR